Diwedd cyfnod wrth i siop chwaraeon gau

  • Cyhoeddwyd
Siop Chwaraeon
Disgrifiad o’r llun,

Siop Cardiff Sportsgear

Wedi hanner can mlynedd o fasnachu, bydd un o fusnesau annibynnol mwyaf Caerdydd yn cau ym mis Medi a hynny ar adeg pan fo Cymru yn serennu yn un o brif gystadleuaethau chwaraeon y byd.

Ar un adeg, Cardiff Sportsgear oedd y busnes chwaraeon annibynnol mwyaf yn Ne Cymru, yn gwerthu popeth o ddillad chwaraeon i fyrddau snwcer.

Roedd gan y busnes teuluol siop ar ddwy ochr i ffordd yr Eglwys Newydd yn ardal Mynydd Bychan yng Nghaerdydd.

Grym y farchnad ar y we a chyfraddau busnes uchel yw rhai o resymau'r perchnogion dros ddod a'r cwmni i ben.

Grym y we yn ormod

Meddai Sian Jordan, rheolwr marchnata'r busnes: "Dros y blynyddoedd, rydym wedi brwydro dirwasgiad a chystadleuaeth ond ers y flwyddyn 2000, mae grym y we wedi bod yn ormod i gystadlu ag e, er bod gyda ni enw da am ein dewis helaeth a'n gwasanaeth gwych.

"Mae hynny, yn ogystal a chyfraddau busnes uchel a chostau eraill wedi ei gwneud hi'n amhosib i ni gystadlu gyda chewri'r we, sy'n gallu prynu a gwerthu'n rhad heb orfod talu'r un costau cyffredinol."

"Mae gyda ni lot o gwsmeriaid ffyddlon sydd yn dweud bod y siop yn grêt, ond does dim digon o bobl yn dod yma erbyn hyn i gadw'r siop ar agor."

Disgrifiad o’r llun,

Crys Cymru

Yn ddiweddar, wrth glirio hen stoc yng nghefn y siop, fe ddaeth Sian o hyd i hen grysau pêl-droed Cymru o ddechrau'r 80au. Ar y pryd, dim ond ychydig wythnosau oedd i fynd cyn dechrau pencampwriaeth Euro 2016, felly penderfynodd eu hysbysebu ar wefannau cymdeithasol: "Fe werthon nhw allan o fewn oriau. Aeth hi'n dipyn o frenzy!"

Disgrifiad o’r llun,

Cardiff Sportgear

Y Capten Neil Jordan agorodd y siop ym 1966, a'i fab Andrew yw'r perchennog presennol. Mae'n dweud iddyn nhw gael blynyddoedd llewyrchus: "Rydyn ni wedi cael 50 mlynedd cofiadwy yn y diwydiant masnachu nwyddau chwaraeon.

"Mae cymaint o atgofion. Er enghraifft, Cardiff Sportgear oedd yr unig gwmni oedd yn cyflenwi Subbuteo yn yr ardal pan ddaeth y gêm allan. Byddai cwsmeriaid yn ciwio rownd y bloc yn aros i loriau ddod a stoc, a byddai cynghreiriau Subbuteo lleol yn rhoi eu sgoriau ar ddrysau'r siop bob wythnos."

Yna yr 80au, pan oedd Snwcer ar ei anterth, roedden ni'n cyflenwi byrddau i bob cwr o'r wlad, ac i enwogion: "Aethon ni a byrddau lan i glwb Manchester United unwaith. Ac unwaith, fe arhoson ni ar agor yn hwyr, achos bod Sir Tom Jones eisiau galw i siopa."

Er y tristwch o orfod dod a'r busnes i ben, mae Andrew'n dweud ei fod yn falch o'r hyn gafodd ei gyflawni ganddyn nhw dros yr 50 mlynedd diwethaf, ac mae'n edrych ymlaen at weithio ar brosiectau newydd.