Cymal cyntaf Ras yr Iaith yn dechrau

  • Cyhoeddwyd
rhedwyrFfynhonnell y llun, @cynog_prys
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o redwyr Ras yr Iaith yn dechrau'r cymal cyntaf

Mae disgwyl i Ras yr Iaith ddechrau ym Mangor ddydd Mercher. Dyma fydd yr ail ras i gael ei chynnal yng Nghymru, ddwy flynedd wedi'r digwyddiad cyntaf.

Eleni, bydd y ras yn cael ei hymestyn i fod yn 66 o gilomedrau mewn hyd, gyda'r baton yn cael ei basio o dref i dref rhwng Bangor a Llandeilo.

Nod Ras yr Iaith, fydd yn dridiau eleni, yw tynnu siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a phobol ddi-gymraeg at ei gilydd i ddathlu'r Gymraeg.

Ond, fydd hi ddim yn ras gystadleuol, yn ôl un o'r trefnwyr Siôn Jobbins:

"Mae'r digwyddiad yma'n seiliedig ar rasys dros ieithoedd mewn lleoliadau fel Gwlad y Basg, Llydaw ac Iwerddon. Mae miloedd yn cymryd rhan yno, a pha ffordd well o godi hwb a hyder yn yr iaith.

'Yn gryf a hyderus'

"Mae pobl o bob math yn rhedeg ac yn helpu, sy'n brawf felly bod y Gymraeg yn iaith gryf ac hyderus."

Y bwriad yw denu sylw a chodi arian i hybu datblygiad y Gymraeg mewn trefi ar draws Cymru. Ac yn ôl y trefnwyr, bydd unrhyw elw yn cael ei fwydo 'nol i geisio cyflawni hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones: "Maen wych i gael croesawi Ras yr Iaith i Fangor.

"Bydd canolfan newydd yn cael ei lansio yma cyn diwedd y flwyddyn, mae'n hynod briodol felly bod Ras yr Iaith yn dechrau yma."

'Neges arbennig'

Ychwanegodd Siôn Jobbins: "Mae'r baton yn pasio o law i law, yn debyg iawn i'r iaith ei hun. Mae neges arbennig yn y baton, neges fydd yn cael ei darllen yn y lleoliad ola yn Llandeilo."