Adam Price yn galw eto am uchelgyhuddo Tony Blair
- Cyhoeddwyd
Mae cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi galw unwaith eto ar Senedd San Steffan i uchelgyhuddo Tony Blair.
Dywedodd Adam Price, sydd bellach yn Aelod Cynulliad: "Mae uchelgyhuddo yn dal yn bosib. Mae'n arf sy'n bodoli."
Ond, tra'n cymryd cyfrifoldeb llwyr am y penderfyniad i fynd i ryfel, dywedodd Tony Blair ei fod yn dal i gredu "ei bod hi wedi bod yn well disodli Saddam Hussein."
Cododd Mr Price y syniad o uchelgyhuddo Mr Blair gyntaf yn ôl yn 2004, ac wrth ymateb i adroddiad Chilcot ddydd Mercher, dywedodd: "Mae'n bosib mai dyma (uchelgyhuddo) yw'r unig ffordd posib i ni ddwyn Tony Blair i gyfri, oherwydd, fel rydym wedi clywed, dyw'r Llys Troseddau Rhyngwladol ddim yn caniatáu dwyn achosion o droseddau rhyfel yn erbyn unigolion.
"Dyma'r unig gyfle sydd gyda ni. Dim ond y Senedd, y llys uchaf yn y wlad, all wneud hynny. Mae angen iddyn nhw wneud hynny.
"Mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny achos roedden nhw'n euog yn nhermau'r penderfyniad gwreiddiol - rhaid iddyn nhw weithredu nawr er mwyn adfer ffydd mewn democratiaeth.
Ond mae un Aelod Seneddol o Gymru yn dal i gredu mai mynd i ryfel oedd y peth cywir i'w wneud. Fe gefnogodd Ann Clwyd yr ymgyrch filwrol yn Irac ar y pryd. Roedd hi yn Lysgennad arbennig ar hawliau dynol yn Irac i Lywodraeth Tony Blair, ac wedi ymgyrchu ers blynyddoedd dros hawliau Cwrdiaid oedd wedi dioddef dan deyrnasiad Saddam Hussein.
"Roedd Saddam wedi torri rhyw 17 o benderfyniadau y Cenhedloedd Unedig, a ddim yn ymateb o gwbwl. Dwi yn meddwl iddyn nhw rhoi bob siawns iddo fe.
"Beth oedd wedi digwydd i`r Cwrdiaid, o ni yna chwefror 2003 cyn i`r rhyfel gael ei gyhoeddi - ac o ni`n siarad gyda`r Cwrdiaiad adeg hynny o nhw`n ofni yn fawr iawn, pobl yn ffoi yn barod o`r trefi i`r wlad ac yn meddwl y byddai Saddam Hussein yn defnyddio arfau cemegol arnyn nhw yn eu herbyn unwaith eto, fel oedd e wedi neud yn halabja."
Mae Tony Blair yn dweud ei fod yn cymryd cyfrifoldeb yn llwyr am y penderfyniad a arweiniodd at fynd i ryfel yn Irac, ond yn mynnu ei fod yn dal i feddwl ei fod wedi gwneud y peth iawn.
Dywedodd ei fod yn teimlo mwy o dristwch, edifeirwch, ac ymddiheuriad nag y byddai pobl fyth yn gwybod.