Chilcot: 'Rhyfel ddim yr unig ddewis'
- Cyhoeddwyd
Wnaeth Prydain ddim ystyried yr holl opsiynau heddychlon oedd ar gael cyn penderfynu anfon milwyr i Irac, medd cadeirydd yr ymchwiliad i'r rhyfel.
Wrth gyhoeddi casgliadau'r adroddiad gafodd ei gomisiynu saith mlynedd yn ôl, dywedodd Syr John Chilcot nad gweithredu milwrol oedd yr unig ddewis.
Ychwanegodd fod y casgliadau am arfau dinistriol ar raddfa eang "wedi eu cyflwyno gyda sicrwydd nad oedd modd ei gyfiawnhau" a bod y cynllunio wedi i'r rhyfel ddod i ben wedi bod yn "hollol annigonol".
Dywedodd fod rôl filwrol Prydain yn Irac wedi dod yn aflwyddiannus a bod canlyniadau'r ymyrraeth i'w gweld tan y dydd heddiw.
Rhai prif gasgliadau:
Penderfynodd Prydain ymosod ar Irac cyn i'r holl opsiynau heddychlon gael eu gwyntyllu
Nid gweithredu milwrol oedd yr unig ddewis
Er gwaethaf rhybuddion amlwg, cafodd sgil-effeithiau'r ymosodiad eu tanbrisio
Roedd y cynllunio a'r paratoi ar gyfer Irac wedi i Saddam Hussein gael ei ddisodli yn hollol annigonol
Methodd y Llywodraeth a chyflawni ei hamcanion
Fe ddaeth y rhyfel â theyrnasiad Saddam Hussein i ben, ond cafodd 179 o filwyr Prydain eu lladd, gan gynnwys 14 o Gymry, yn ogystal â channoedd o filoedd o Iraciaid.
Y cyn Brif Weinidog Gordon Brown gomisiynodd yr ymchwiliad saith mlynedd yn ôl, gyda'r bwriad o ddysgu gwersi o benderfyniad Prydain i fynd i ryfel.
'Cymryd cyfrifoldeb'
Fel Prif Weinidog ar y pryd, roedd rôl Tony Blair yn y penderfyniad i fynd a Phrydain i ryfel yn Irac yn allweddol. Fyth ers hynny, mae e wedi ei feirniadu, gyda rhai'n galw am ei erlyn am droseddau rhyfel.
Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad, dywedodd y byddai'n "cymryd cyfrifoldeb llwyr am unrhyw gamgymeriadau", ond ei fod yn dal i gredu "ei bod hi'n well disodli Saddam Hussein."
"Dydw i ddim yn credu mai disodli Saddam Hussein yw achos y terfysgaeth rydyn ni'n gweld yn y Dwyrain Canol a mannau eraill heddiw," meddai.
Ychwanegodd iddo wneud y penderfyniad i fynd i ryfel "er mwyn yr hyn o'n i'n credu oedd yn lles y wlad".
Yn 2002, mewn dogfen i amlinellu'r rhesymau dros fynd i ryfel, dywedodd Mr Blair yn y rhagair fod ganddyn nhw guddwybodaeth oedd yn "sefydlu y tu hwnt i amheuaeth" fod Saddam Hussein yn cynhyrchu arfau cemegol a biolegol.
Ond mae llawer o hyn wedi ei brofi'n anghywir ers hynny. Mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi yn 2004 ar ddefnydd cuddwybodaeth er mwyn cyfiawnhau rhyfel, daeth y cyn ysgrifennydd cabinet, yr Arglwydd Butler i'r casgliad fod y wybodaeth yn annibynadwy, ond wnaeth yr adroddiad ddim enwi unigolion oedd â chyfrifoldeb am y gwendidau hyn.
Wrth ymateb i'r adroddiad yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd y Prif Weinidog David Cameron - a bleidleisiodd dros fynd i ryfel yn 2003, fod yna "wersi i'w dysgu ar gyfer y dyfodol."
"Rhaid i Aelodau o bob ochr a bleidleisiodd dros weithredu milwrol gymryd ein cyfran o'r cyfrifoldeb," meddai.
"Allwn ni ddim a throi y cloc yn ôl, ond gallwn sicrhau ein bod yn gweithredu ar unrhyw wersi sydd i'w dysgu."
'Anghyfreithlon'
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn - a bleidleisiodd yn erbyn mynd i ryfel - fod casgliadau'r adroddiad yn profi fod yr ymladd wedi bod yn anghyfreithlon.
"Fe ledaenodd y rhyfel derfysgaeth ar draws y rhanbarth. Mae'r ymyrraeth wedi bod yn drychinebus."
Ychwanegodd bod angen astudio'r adroddiad yn drwyadl cyn gwneud sylwadau manwl.
'Dwyn i gyfri'
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams:
"Mae Adroddiad Chilcot yn cadaranhau'r hyn mae aelodau seneddol Plaid Cymru wedi bod yn ei ddweud ers y dechrau - cafodd y ddogfen gafodd ei pharatoi gan Mr Blair i ddadlau'r achos dros ryfel ei gorliwio'n fwriadol er mwyn argyhoeddi'r senedd y dylai bleidleisio dros ryfel anghyfreithlon, a doedd hi ddim yn adlewyrchu tystiolaeth roddwyd i Mr Blair gan y gwasanaethau diogelwch.
"Mae'n cadarnhau fod Mr Blaid wedi tanseilio awdurdod cyngor diogelwch y Cenhedleodd Unedig, ac yn cadarnhau hefyd nad rhyfel oedd yr unig ddewis.
"Rhaid i Mr Blair gael ei ddwyn i gyfri."
'Penderfynol o fynd i ryfel'
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron: "Roedd Blair yn benderfynol o fynd i ryfel yn Irac hefo Bush er gwaetha' unrhyw dystiolaeth, cyfreithlondeb neu oblygiadau difrifol y peth.
"Mae Daesh (y Wladwriaeth Islamaidd) wedi codi yn sgil diffyg paratoi llwyr gan y llywodraeth ar gyfer y cyfnod wedi'r rhyfel.
"Ymhell o fod yn deithiwr i Bush, roedd Blair yn gyd-beilot yn y penderfyniad trychinebus hwn sydd wedi ansefydlogi Irac, cynnig cyfle i Daesh, a phardduo enw da Prydain ar draws y byd."