Cymry am ddiwrnod
- Cyhoeddwyd

Troswyd holl eiriau teitlau agoriadol 'This Morning' i'r Gymraeg
Gyda chenedlaethau wedi ymladd dros statws yr iaith dros y blynyddoedd, pwy fyddai wedi meddwl byddai'r gwaith 'na gyd wedi bod yn llawer haws petai gynnon ni dîm pêl-droed llwyddiannus?
Mae cwmnïau rhyngwladol, rhaglenni a sianeli teledu a phapurau newydd wedi troi'n Gymry am ddiwrnod (neu ddwy) diolch i lwyddiant criw Coleman.
Dyma gofnodi eiliadau hanesyddol lle cafodd y Gymraeg lwyfan rhyngwladol... am gyfnod.

Wnaeth cwis pêl-droed Cymraeg ymddangos ar wefan Radio 4

Newidiodd cyfrif Twitter Dr. Who ei enw am ychydig ar ddiwrnod y gêm yn erbyn Portiwgal

...a fe wnaeth dau o sêr y gyfres ddymuno pob lwc i'r tîm...

Ar yr un diwrnod, ymunodd y Daily Telegraph mewn ysbryd cenedlaethol tra wahanol i'r arfer

Newidiodd cyfrif Twitter Match of the Day ei enw am gyfnod er syndod i lawer o'u 2.2 miliwn o ddilynwyr mae'n siŵr

I fyd masnach, a darganfyddodd cwmnïoedd rhyngwladol eu Cymreictod gan gynnig anrhegion hael i ni'r Cymry... Iechyd da!

A chware teg, er gwaetha'r ffaith i Adidas weud ffortiwn mae'n siŵr o werthu crysau Cymru i ni, o leiaf maen nhw wedi talu nôl drwy anfon negeseuon Cymraeg, cywir ar eu cyfrif Twitter yn rheolaidd yn ystod yr ymgyrch

Guardian yr iaith: Aeth un papur newydd y filltir ychwanegol, drwy ddarparu llif byw o rai o gemau Cymru ar eu gwefan

Mae'n rhaid dweud fod ambell i gwmni wedi neidio ar y 'bandwagon' fel y cwmni 'bwyd iach' yma...

Roedd hyd yn oed Tŵr Eiffel yn troi'n Goch Gwyn a Gwyrdd pob tro roedd Cymru'n ennill

Bu Aled Hughes yn trafod effaith Euro 2016 ar y Gymraeg ar Radio Cymru fore Gwener 8 Gorffennaf:
Trafodaeth rhwng Ifor ap Glyn, Ashok Ahir a Rhodri ap Dyfrig ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru