Euro 2016: Proffil Cymru 'erioed wedi bod yn uwch'
- Cyhoeddwyd
Dydi proffil Cymru yn rhyngwladol "erioed wedi bod yn uwch" wedi llwyddiant tîm Chris Coleman yn Euro 2016, meddai'r Ysgrifennydd Economi.
Dywedodd Ken Skates bod angen manteisio ar y cyfle yn dilyn taith Cymru yn Ffrainc dros y mis diwethaf.
Bydd adran dwristiaeth Llywodraeth Cymru yn ceisio neidio ar y cyfle, ac yr wythnos hon cafodd fideo yn hybu Cymru ei ddarlledu yn yr Almaen.
"Dyw proffil Cymru yn fyd eang erioed wedi bod yn uwch," meddai'r Mr Skates.
"Rydym yn codi ein gêm mewn ffyrdd gwahanol ac yn gwneud cysylltiad gyda nifer eang o ysgrifenwyr teithio a darlledwyr ar draws y byd."
Dywedodd Mr Skates hefyd bod yna gynnydd yn nifer o ymwelwyr i wefan Croeso Cymru.
"Beth sydd angen i ni sicrhau yw ein bod yn trosi'r diddordeb hwnnw i ymweliadau go iawn.
"Dyna pam rwy'n awyddus i sicrhau bod gennym ni'r adnoddau i dargedu'r nifer mwyaf o bobl ac sy'n bosib."
'Manteisio'
Roedd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn Stadiwm Principality nos Fercher i wylio'r gêm rhwng Cymru a Phortiwgal.
"Hyd yn oed os byddwn wedi gofyn i'r canghellor am swm enfawr o arian yn o ran miliynau neu biliynau, bydden ni heb allu prynu'r cyhoeddusrwydd yma," meddai.
"Mae hyn wir wedi rhoi Cymru ar y map. Ni ddylai gwerth pêl-droed rhyngwladol gael ei danbrisio ac mae angen i ni fod mewn safle er mwyn manteisio ar hynny mewn ffordd bositif."
'Anodd mesur'
Felly i ba raddau gall ymdrechion y tîm cenedlaethol roi hwn i economi Cymru?
Mae'r Athro Max Munday wedi asesu'r effaith economaidd o ddyrchafiad Abertawe i Uwch Gynghrair Lloegr ar y ddinas.
"Pan mae clwb yn cael dyrchafiad o'r Bencampwriaeth i'r Uwch Gynghrair rydym yn gweld blynyddoedd o effaith," meddai.
"Mae rhan o hynny'n gysylltiedig gydag arian teledu ac, yn amlwg, mae 'na obaith y cewch chi incwm ychwanegol o dwristiaeth yn dod i'r ddinas berthnasol.
"Mae hwn ychydig yn wahanol - rydym yn trafod tîm cenedlaethol felly mae'n anodd iawn mesur effeithiau cysylltiedig i beth sydd wedi bod yn berfformiad da iawn gan Gymru."