Ymgyrch Cwpan y Byd 2018 fydd un olaf Coleman

  • Cyhoeddwyd
Chris ColemanFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Chris Coleman wedi dweud mai ymgyrch Cwpan y Byd 2018 fydd ei olaf fel rheolwr Cymru.

Fe wnaeth Coleman arwain Cymru i rownd gynderfynol Euro 2016, sy'n golygu mai dyma'r garfan fwyaf llwyddiannus yn hanes y wlad.

Mae gan Coleman, 46 oed, gytundeb nes diwedd Cwpan y Byd yn Rwsia, gyda'i dîm yn dechrau'r ymgyrch i gyrraedd yno yn erbyn Moldova ym mis Medi.

"Rwy'n siŵr mai dyma fydd fy ymgyrch olaf os ydyn ni'n cyrraedd Rwsia neu beidio," meddai.

"Bydd hynny yn rhyw chwech neu saith mlynedd yn y swydd, sy'n amser hir.

"Mae mwy o lwyddiant yn y tîm yma, rwy'n meddwl, am eu bod o oedran da.

"Fe fydda i'n rhoi popeth i'r ymgyrch nesaf yma, ac fe wnâi'n siŵr eu bod nhw hefyd."

Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Carfan Chris Coleman yw'r un mwyaf llwyddiannus yn hanes y wlad

Mae Coleman wedi gweld trawsnewidiad enfawr yn y tîm cenedlaethol ers iddo gael ei apwyntio mewn amgylchiadau anodd ym mis Ionawr 2012 yn dilyn marwolaeth Gary Speed.

Cafodd ei wobrwyo am gyrraedd Euro 2016 gyda chytundeb newydd ym mis Mai, ond mae'n dweud nad yw'n difaru arwyddo cytundeb newydd cyn eu llwyddiant yn y bencampwriaeth.

"Pe bai'r gymdeithas eisiau trafod cytundeb newydd arall fe fyddwn i'n eu twyllo nhw allan o'u harian i ryw raddau byddwn?

"Byddai'r un peth pe bawn i'n gadael i fynd rhywle arall am ein bod wedi llwyddo mewn pencampwriaeth.

"Ni fyddai'n teimlo'n iawn. Rydw i wedi arwyddo cytundeb da ac rwy'n edrych ymlaen at yr ymgyrch."