Gôl Robson-Kanu oedd yr orau yn Euro 2016

  • Cyhoeddwyd
Hal Robson-KanuFfynhonnell y llun, BBC Sport

Gôl Hal Robson-Kanu yn erbyn gwlad Belg ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth rhaglen deledu Match of The Day i ddewis gôl orau Euro 2016.

Fe wnaeth Robson-Kanu anfon tri o amddiffynwyr Gwlad Belg i'r cyfeiriad anghywir, cyn troi ac ergydio'r bêl i gefn y rhwyd yn y rownd go gynderfynol.

Fe wnaeth gwylwyr ddewis gôl Robson-Kanu ynghyd â goliau Xherdan Shaqiri (Swistir v Gwlad Siec) a Cristiano Ronaldo (Portiwgal v Hwngari) ar y rhestr fer.

Yna, panelwyr y rhaglen, oedd yn gyfrifol am ddewis y gôl fuddugol.

Dywedodd Rio Ferdinand: "Rwy'n dewis gôl Robson-Kanu, fe wnaeth o anfon amddiffynwyr Gwlad Belg y ffordd gwbl anghywir, fe wnaeth o symudiad Johann Cruff, dangosodd bwyll a rhoi'r bêl yng nghefn y rhwyd. Hyfryd."

Dywedodd Thierry Henry, cyn gapten Ffrainc: "I fi roedd y dewis yn syml. Robson-Kanu. Rheolaeth, cryfder a sicrwydd ynddo'i hun."