Dadorchuddio portread o Richard Burton yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Cafodd mosäig o'r actor Richard Burton a wnaed o lechi 500m mlwydd oed o Gonwy ei dadorchuddio gan ei ferch, Kate Burton, ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Llun.
Defnyddiodd yr artist Ed Chapman lechi o Chwarel Rhiwbach yng Nghonwy i greu'r portread ym mis Tachwedd y llynedd i nodi pen-blwydd yr actor yn 90 mlwydd oed.
Bydd y mosäig, a gymrodd wythnosau i'w chreu, yn cael cartref newydd yn agos i Bontrhydyfen, man geni'r actor fu farw yn 1984 yn 58 oed, a hynny yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.
Mae'r brifysgol yn gartref i Gasgliad Richard Burton, sy'n cynnwys dyddiaduron, llyfrau, lluniau a phosteri ffilm, yn ogystal ag adroddiadau ysgol o Ysgol Uwchradd Port Talbot o'r adeg pan fuodd Richard Jenkins, Richard Burton yn ddiweddarach, yn ddisgybl yno.
Cafodd Casgliad Richard Burton ei roi i Brifysgol Abertawe yn 2005 gan ei wraig weddw, Sally Burton.
Dywedodd Kate Burton: "Mae'n fraint enfawr i ddadorchuddio'r mosäig hardd hwn ym Mhrifysgol Abertawe. Rwyf i a'r teulu cyfan yn hynod ddiolchgar."
Meddai Mr Chapman: "Rwyf wedi edmygu gwaith Richard Burton am flynyddoedd, ac roeddwn i am greu darlun unigryw ohono gan ddefnyddio rhywbeth Cymraeg."