Codi tir ysgol i osgoi llifogydd

  • Cyhoeddwyd
llifogydd
Disgrifiad o’r llun,

Llifogydd ar stâd Glasdir yn 2012

Bydd ysgol newydd yn Rhuthun yn cael ei hadeiladu yn uwch na lefel y tir er mwyn osgoi'r perygl o lifogydd, yn ôl Cyngor Sir Ddinbych.

Cafodd yr ardal i'r gogledd o'r dref ei tharo gan lifogydd trwm ym mis Tachwedd 2012, gyda stâd Glasdir yn cael ei heffeithio'n arbennig o wael.

Mae disgwyl i'r ysgol newydd, fydd yn cymryd lle ysgolion Stryd y Rhos a Pen Barras, gael ei hadeiladu ar safle cyfagos Fferm Glasdir.

Ond yn ôl adroddiad sydd wedi edrych ar risg llifogydd yr ardal, byddai angen codi lefel prif adeilad yr ysgol o hyd at 1.8m uwchlaw lefel y ddaear er mwyn diogelu'r safle.

Ers y llifogydd yn 2012, pan orlifodd Afon Clwyd, mae amddiffynfeydd ac argloddiau newydd wedi cael eu hadeiladu.

'Lleihau risg i dai'

Mae'r cyngor sir bellach wedi cyflwyno'u cynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd, fydd yn cynnwys dymchwel Fferm Glasdir, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynnu na ddylai unrhyw ddatblygiad pellach gynyddu'r risg i'r tai sydd eisoes yno.

Dywedodd adroddiad gan gwmni ymgynghori hydroleg Waterco y gall fod risg llifogydd i safle'r ysgol petai ffosydd cyfagos yn cael eu rhwystro.

Ychwanegwyd fodd bynnag bod Cyngor Sir Dinbych bellach yn cadw llygad mwy manwl ar y ffosydd hynny ers llifogydd 2012 ac felly bod y "tebygolrwydd o rwystr sylweddol yn isel tu hwnt".

Yn ôl Waterco, byddai ardal storio dŵr llifogydd wedi'i lleoli mewn cornel o safle'r ysgol newydd ger y caeau chwarae hefyd yn lleihau'r risg o lifogydd i'r stâd dai gyfagos.

"Petai yna rwystr strwythurol, byddai'r trefniadau arfaethedig yn gwella'r trefniadau presennol ar gyfer yr holl bosibiliadau sydd wedi'u hystyried, ac oherwydd hynny fe fyddai'r risg o lifogydd i ardal breswyl Glasdir yn cael ei leihau, mewn rhai achosion yn sylweddol," meddai'r adroddiad.