Cymeradwyo cynllun i droi'r Gyfnewidfa Lo yn westy

  • Cyhoeddwyd
Dyluniad Y Gyfnewidfa LoFfynhonnell y llun, Signature Living
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad o sut all y Gyfnewidfa Lo yn edrych ar ei newydd wedd

Mae cynllun dadleuol i ailddatblygu adeilad y Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd wedi cael ei gymeradwyo gan bwyllgor cynllunio cyngor y ddinas.

Bwriad cwmni Signature Living yw troi'r adeilad rhestredig yn westy gyda 200 o ystafelloedd.

Ond mae rhai wedi beirniadu'r cynllun £40m, gan gynnwys yr AS lleol, Stephen Doughty, sydd wedi galw am ymchwiliad, a'r Gymdeithas Fictoraidd sy'n dweud ei fod yn "annerbyniol".

Yn ôl y datblygwyr byddai'r cynllun yn creu 100 o swyddi wrth adeiladu, ac yna 60 arall ar ôl agor.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ar ol cau yn 1958, mae'r adeilad wedi ei ddefnyddio'n achlysurol ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau

Cafodd yr adeilad ei agor yn 1883, ac mae'n cael ei ystyried fel un o'r pwysicaf yng Nghaerdydd o ran hanes. Dyma'r lleoliad lle cafodd y siec gyntaf gwerth £1m ei harwyddo.

Rhoddwyd sêl bendith i'r cynlluniau gan bwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd wedi iddyn nhw ei drafod ddydd Mercher.