Cyflwyno'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg i Guto Roberts
- Cyhoeddwyd
Mae Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau wedi ei chyflwyno i Guto Roberts o Lantrisant, Rhondda Cynon Taf, am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bu Mr Roberts yn ymwneud gyda Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1971, pan drefnwyd y babell gyntaf ar y Maes.
Wrth i bresenoldeb Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod ddatblygu a chynyddu dros y blynyddoedd, roedd ei gynlluniau'n mynd yn fwyfwy uchelgeisiol, gan roi cyfle i genedlaethau o wyddonwyr ifanc i gael eu hysbrydoli gan fodelau, arddangosfeydd a theclynnau gwyddonol o bob math ar y Maes yn flynyddol.
Bu'n gwasanaethu ar bwyllgor canolog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod am 20 mlynedd.
Roedd Mr Roberts hefyd yn gyfrifol am roi'r rhaglen weithgareddau a darlithoedd at ei gilydd ar gyfer wythnos yr Eisteddfod, a bu'n allweddol i'r gwaith o sicrhau bod ymwelwyr yn cael gwybod am berthnasedd datblygiadau gwyddonol byd-eang yng Nghymru, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyma'r cyfnod pan aeth ati i hyrwyddo pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yn yr Eisteddfod er mwyn ennyn diddordeb y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr mewn astudio'r pynciau hyn yn y Gymraeg.
Ymgyrchu
Yn wreiddiol o Ben Llŷn, astudiodd Mr Roberts ffiseg yn y brifysgol yn Aberystwyth, lle bu'n rhan o'r gymuned a chymdeithas Gymraeg yn y coleg, gan gyd-arwain ymgyrch lwyddiannus i sefydlu neuadd breswyl Gymraeg yn y coleg, a gyda Iolo ap Gwynn a'r diweddar Dyfrig Jones, sefydlodd Gymdeithas Wyddonol Aberystwyth, y gymdeithas wyddonol Gymraeg gyntaf.
O'r coleg aeth i ddysgu ffiseg ym Mholytechnig Cymru, Pontypridd, ac erbyn ei ymddeoliad yn 2000 roedd yn bennaeth grŵp Ffiseg Prifysgol Morgannwg.
Bu hefyd yn Brif Arholwr Safon Uwch Ffiseg Cydbwyllgor Addysg Cymru yn y 1990au, yn is-gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd yn 1991, ac roedd yn un o'r rhai a sefydlodd y fenter iaith yn Rhondda Cynon Taf.
Ef oedd cadeirydd cyntaf y fenter a bu'n ymddiriedolwr am dros 20 mlynedd.