Cyflwyno'r Gadair er cof am Dic Jones
- Cyhoeddwyd
Bydd seremoni'r Cadeirio'n cael ei chynnal yn ddiweddarach ddydd Gwener yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau.
Eleni, mae'n hanner canrif ers i Dic Jones ennill y Gadair yn Eisteddfod Aberafan am ei awdl 'Y Cynhaeaf', ac i nodi'r achlysur, cyflwynir y Gadair eleni gan ei deulu er cof am y bardd.
Un a fu'n ymweld yn aml â'r Hendre, cartref Dic Jones, oedd Emyr Garnon James, a'r crefftwr hwn, sydd hefyd yn bennaeth Adran Dylunio a Thechnoleg Ysgol Uwchradd Aberteifi, a ddewiswyd gan y teulu i gynllunio a chreu Cadair Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau eleni.
'Anrhydedd'
Dywedodd Mr James: "Roeddwn i'n arfer galw yn Yr Hendre a gweld Cadair Aberafan yn y gornel, a feddylies i erioed y byddwn i'n cael fy newis i greu cadair ar gyfer yr Eisteddfod, a honno er cof am Dic ei hun. Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn bleser creu'r Gadair hon, a diolch i'r teulu am y cyfle.
"Wrth gychwyn ar y gwaith ac wrth feddwl am Dic a siarad gyda'r teulu, roedd un peth yn bendant - cadair ddi-ffws fyddai Cadair Eisteddfod 2016 - a'r pren fyddai'r prif atyniad. Dychwelais i'r Hendre i weld Cadair 1966. Roedd hi'n gadair gyfoes iawn ar y pryd a hithau hefyd yn ddi-ffws, gyda'r pren yn drawiadol a hardd. Dewisais weithio gyda phren Ffrengig du, a chreu cynllun syml gyda llinellau syth, cynllun y byddai Dic ei hun wedi'i werthfawrogi, gobeithio.
"Mae gweithio gyda'r pren wedi bod yn brofiad arbennig, ac rwyf wedi dysgu sut i gastio efydd i mewn i'r pren er mwyn creu'r ysgrifen a'r Nod Cyfrin, profiad newydd i mi, ac efallai y bydd ambell ddisgybl yn defnyddio'r broses hon mewn prosiectau dros y blynyddoedd nesaf."
'Taith bersonol'
Ychwanegodd Emyr Garnon James: "Er 'mod i wedi cynllunio a chreu ambell gadair fechan ar gyfer Eisteddfod yr ysgol dros y blynyddoedd, hon yw'r gadair fawr gyntaf i mi'i chreu - a pha well gŵyl na'r Eisteddfod Genedlaethol, a'r Gadair honno'n coffáu Dic Jones. Gobeithio'n arw y cawn fardd teilwng i dderbyn y Gadair ar y diwedd er mwyn cwblhau prosiect a fu'n daith bersonol iawn i mi dros y misoedd diwethaf."
Cyflwynir y wobr ariannol er cof am Islwyn Jones, Gwenfô, Caerdydd.