Cyngor Môn i drafod safleoedd i deithwyr a sipsiwn

  • Cyhoeddwyd
carafan sipsiwn

Mae swyddogion Cyngor Môn wedi cymeradwyo dwy ardal bosib ar gyfer sefydlu un safle aros dros dro i deithwyr a sipsiwn.

Mae un safle yn y Gaerwen a'r llall ar dir yr A55/A5 rhwng Llanfairpwll a chroesffordd y Star.

Ond yn ôl adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i bwyllgor craffu, mae'r chwilio yn parhau am safle aros dros dro yng Nghaergybi, gan fod y safleoedd a oedd dan ystyriaeth bellach yn "anaddas".

Fe fydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i gynghorwyr ddydd Mawrth.

Dywedodd prif weithredwr Ynys Môn, Dr Gwynne Jones: "Ar hyn o bryd does yna ddim safleoedd swyddogol ar gyfer teithwyr a sipsiwn ar yr ynys.

"Mae hyn yn arwain at wersylla answyddogol cyson sy'n creu tensiynau gyda chymunedau lleol ac yn rhoi delwedd negyddol o'r gymuned sipsiwn a theithwyr.

"Mae ein swyddogion wedi ceisio cydbwyso anghenion pobl leol a chyfrifoldebau'r byngor yn ôl Deddf Tai 2014."

Mae disgwyl i gabinet Bwrdd Gweithredol Ynys Môn ddod i benderfyniad terfynol ar 25 Gorffennaf.