Eleni yn Y Fenni

  • Cyhoeddwyd

Mae Lowri Haf Cooke wedi bod yn pori trwy raglen yr Eisteddfod i gael blas o bigion celfyddydol yr ŵyl, ac i sicrhau nad ydych chi'n methu dim o'r arlwy yn ystod yr wythnos.

Wrth i'r Fenni a'r fro gael ei tharo gan gorwynt o Gymreictod, mae Nadolig y Cymry Cymraeg i'w deimlo yn yr aer, a phawb yn dyheu am brofi Prifwyl penigamp. Ond nid carolau sydd i'w clywed ar wefusau pawb, ond 'Eisteddfod' gan Anweledig! Dyma edrych ymlaen at rai o ddigwyddiadau celfyddydol yr ŵyl.

Ffynhonnell y llun, Luned Emyr
Disgrifiad o’r llun,

Lowri Haf Cooke sy'n ein tywys o amgylch pigion celfyddydol yr ŵyl

Dathlu Arglwyddes Llanofer

O gofio lleoliad y Maes ar Ddolydd y Castell, nid nepell o Stâd Llanofer, bydd cyfleoedd di-ri i ddathlu arwres o fri, Augusta Hall (1802-1896) - 'Gwenynen Gwent' ac Arglwyddes Llanofer. O Bebyll y Cymdeithasau i Maes D a Theatr y Maes, bydd Eiry Palfrey, Prys Morgan a Celyn Gurden-Williams, ymysg yr enwau i dalu teyrnged i'r gefnogwraig frwd i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg. Os gewch chi'ch cyffwrdd gan ei hawen, bydd Cymdeithas Dawns Werin Cenedlaethol Cymru yn cynnal Gweithdy Dawns Llanofer yn Tŷ Gwerin am 11am ar fore Mawrth, 2 Awst.

Sinemaes

Un o ddatblygiadau mwyaf cyffrous y Maes eleni yw presenoldeb y Sinemaes. Bob bore am 9.30, yn sesiwn ddyddiol 'Dyddiau Da - Cefn Gwlad Cymru ar Ffilm,' ceir cip ar gymeriadau a chymunedau Cymru'r ganrif ddiwethaf, o gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

Yn y Sinemaes, yn ogystal â gweithdai lu - fel sesiwn cerdd ffilm y cyfansoddwr John Rea am 11.00 ddydd Mawrth - cynhelir dangosiadau o ffilmiau Cymraeg; o ddramâu hanesyddol fel 'Y Mapiwr' a 'Hedd Wyn' i gomedïau fel 'Ibiza Ibiza' a 'Steddfod Steddfod', ynghyd â ffilmiau byrion arswydus a gomisiynwyd gan Ŵyl Abertoir, a'r clasur iasoer 'Gwaed ar y Sêr'. Ac i ffans y ddrama 'Parch' ar S4C gan Fflur Dafydd, cynhelir rhagolwg o'r ail gyfres am 11.00 fore Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

'Y Llyfrgell'

Ond yn nhermau'r sgrin fawr, efallai mai uchafbwynt yr wythnos fydd premiere Cymreig 'Y Llyfrgell' yn Sinema'r Fenni ar Stryd Baker nos Lun, Awst 1af am 7.30 - yn dilyn sgwrs o flaen llaw gyda'r awdur Fflur Dafydd a'r cyfarwyddwr Euros Lyn am 1.30 yn y Sinemaes.

Y Lle Celf

I nifer, Y Lle Celf, yw ein MOMA ni, a'r cyfle gorau i sawru celf gyfoes o Gymru. Yno, dyfernir Medalau Aur am Gelf Gain, Crefft a Dylunio, a Phensaernïaeth, ynghyd â gwobrau Ifor Davies (2.00 dydd Llun 1 Awst) a Josef Herman, Dewis y Bobl (3.00 p'nawn Sadwrn 6 Awst). Cynhelir yno, yn ogystal, arddangosfa gelf 'Ffiniau', a ysbrydolwyd gan 'Border Country'; nofel fawr yr ysgolhaig a'r llenor Raymond Williams (1921-1988) o Bandy, nid nepell o'r Fenni.

Theatr i bawb

Rhwng arlwy'r Cwt Drama a Theatr y Maes, bydd theatrgarwyr o bob oed wrth eu bodd. O sioeau plant fel 'Dilyn Fi' gan Gwmni'r Frân Wen a 'Diwrnod Hyfryd Sali Mali' gan Arad Goch, i'r sioeau teulu 'Raslas Bach a Mawr' gan Theatr Bara Caws ac 'Anturiaethau Anhygoel Wallace a Bates' gan Theatr na nÓg.

Os am chwa o awyr iach, rhwng 3 a 5 Awst bydd Theatr Bara Caws yn cyflwyno perfformiadau o 'Ga i Fod'? yn y goedwig ger y Pentref Drama - am griw o bobol sy'n dewis byw fel anifeiliaid.

Neu os am rywbeth hyd yn oed yn fwy arbrofol na hynny, rhowch dro ar gynllun arloesol Cwmni'r Frân Wen, 'Theatr Unnos', a sbardunwyd gan lwyddiant Sesiwn Unnos ar BBC Radio Cymru. Bydd criw o artistiaid ifanc yn dod ynghyd am 5.30 yng Nghaffi'r Theatrau ddydd Iau 4 Awst, cyn treulio 20 awr gyda'i gilydd yn creu darn o theatr wreiddiol, a gyflwynir yn Theatr y Maes am 1.00 ar ddydd Gwener.

Ar ben hyn oll, ceir cyflwyniad gan Theatr Genedlaethol Cymru o 'Merch yr Eog', cyd-gynhyrchiad â chwmni Piba o Lydaw, fydd ar daith ledled Cymru yn yr hydref. A bob nos yn y Cwt Drama am 6.00, rhwng 1-5 Awst, bydd 'Rhith Gân' yn cael ei llwyfannu, sef gwaith buddugol enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau 2015, Wyn Mason.

Ysbrydolwyd y ddrama - gyda Saran Morgan, Rhodri Evan, Nia Roberts a Llion Williams - gan albwm 'Y Bardd Anfarwol' gan Gareth Bonello, a bydd cyfraniad byw gan y cerddor.

Disgrifiad o’r llun,

Gwenno enillodd Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2015

A digon o gerddoriaeth...

A sôn am albwm ysbrydoledig, toc cyn datgelu enw enillydd y Gadair yn y Pafiliwn ddydd Gwener, cyhoeddir enillydd Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, yng Nghaffi Maes B am 2.00. Gwenno Saunders aeth â hi y llynedd gyda'i halbwm gysyniadol 'Y Dydd Olaf'; felly tybed pwy ddaw i'r brig eleni?

Ceir rhestr fer eclectig; o seiniau gwerin cyfoes Calan, Plu, 9 Bach a Cowbois Rhos Botwnnog i seinlun epig Yucatan, a hwyl Band Pres Llarregub, i albwm gyntaf Sŵnami, ac albwm gyntaf Datblygu ers 22 mlynedd - heb anghofio ffync-pop Alun Gaffey a phync-roc y band o Flaenau, Brython Shag, sy'n cynnwys cyn-aelodau Anweledig.

Rhywbeth i bawb, fel arlwy yr ŵyl; ymlaen â ni, felly, i'r Fenni!