Ysgol Gymraeg gyntaf 'Little England Beyond Wales'

  • Cyhoeddwyd
Dinbych y Pysgod

Bydd Ysgol Gynradd Gymraeg gyntaf De Penfro yn agor ei drysau ym mis Medi, mewn ardal sydd wedi ei disgrifio braidd yn ddilornus gan rai fel "Little England Beyond Wales".

Mae unedau Cymraeg wedi bod yn Ysgolion Babanod a Iau Dinbych y Pysgod ers degawdau, ond am y tro cyntaf bydd gan y dref ysgol benodedig Gymraeg.

Bydd oddeutu 110 o ddisgyblion yn yr ysgol, ond mae lle i dros 200 o blant yn Ysgol Hafan y Môr.

Yn ôl Cadeirydd y Llywodraethwyr, Julie Jones mae'r ysgol yn awyddus i ddenu disgyblion o drefi cyfagos fel Penfro a Saundersfoot yn ogystal â thref glan môr Dinbych y Pysgod.

"Ry'n ni wedi aros amser i gael yr ysgol newydd," meddai.

"O'r diwedd mae'r twf yn y galw wedi golygu ein bod ni'n gallu agor ysgol benodedig Gymraeg - mae agweddau pobl leol wedi newid tuag at addysg Gymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Julie Jones bod rhieni wedi bod yn disgwyl ers amser hir i gael ysgol Gymraeg

Mae pennaeth yr ysgol newydd, Victoria Hart-Griffiths yn dweud y bydd denu pobl i'r ysgol newydd yn her newydd.

Wedi cael yr her o hyrwyddo ysgolion bach yng nghefn gwlad, yr un nesaf fydd yr her o hyrwyddo'r Gymraeg mewn ardal Seisnigaidd.

Bron i ddeugain mlynedd yn ôl, bu Ann Griffiths yn brwydro i agor unedau Cymraeg o fewn yr ysgol yn Ninbych y Pysgod.

"Beth sydd yn hyfryd yw bod y fringe group wedi troi yn rhywbeth prif ffrwd," meddai. "Mae'n anhygoel."