Rhyddhau pryfed yn ne Cymru i atal llysiau'r dial
- Cyhoeddwyd

Bydd mwy o bryfed sy'n byw ar lysiau'r dial (Japanese Knotweed) o Siapan yn cael eu rhyddhau ar draws ardaloedd cudd yn Ne Cymru.
Fe gafodd miloedd o bryfed eu rhyddhau ar draws chwe safle fis diwethaf, gyda mwy dros yr haf.
Gobaith gwyddonwyr ydi y bydd y pryfed o Siapan yn rhwystro llysiau'r dial rhag tyfu ac felly'n rhoi cyfle i flodau prin brodorol i ffynnu.
Cafodd y planhigyn ei gyflwyno i diroedd Prydain gyntaf yn ystod oes Fictoria, a chafodd ei ddarganfod yn tyfu yn y gwyllt yng Nghymru yn yr 1880au.
Dewis deniadol
Mae ei goesau yn 3-4m o hyd, ac mae ei ddail a'r blodau gwyn yn eu gwneud yn ddewis deniadol i arddwyr.
Mae'r planhigyn yn gyffredin drwy'r Deyrnas Unedig ac nid yn unig yn creu niwed i blanhigion brodorol ond hefyd i strwythurau caled, gan gynnwys adeiladau, palmentydd ac amddiffynfeydd llifogydd.
Yn 2015, fe wnaeth Gweinidogion y DU dderbyn rhaglen diwreiddied ar gost o £1.5bn.
Mae gwyddonwyr yng Nghanolfan Ryngwladol Amaeth a Biowyddoniaeth wedi cael trwydded i brofi'r pryfaid ers 2010.
Heriol
Y Dr Dick Shaw sy'n arwain y prosiect, a dywedodd wrth raglen Eye on Wales Radio Wales: "Rydym yn treialu technegau gwahanol er mwyn ei sefydlu. Mae'n eithaf heriol sefydlu'r pethau yma."
Dywedodd mai'n nod yw dod a diwedd i'r ffordd mae llysiau'r dial yn tyfu fel nad yw mor "ffyrnig" yn y dyfodol.
Dyma'r tro cyntaf i'r math yma o dreialon gael eu defnyddio yn yr Undeb Ewropeaidd i ymladd planhigyn.
Eye on Wales, BBC Radio Wales, 12:30 ddydd Sul 24 Gorffennaf