Bws o Gaernarfon mewn damwain yn Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Damwain bwsFfynhonnell y llun, @paulette59553

Mae bws o Gaernarfon oedd yn cludo plant o Loegr ar drip tramor wedi gwyro oddi ar draffordd yn nwyrain Ffrainc yn agos i'r ffin â'r Swisdir.

Mae'n debyg fod y bws, o gwmni Express Motors o Ben-y-groes ger Caernarfon, yn teithio tua'r de ar draffordd ger tre Lons-le-Saunier pan aeth oddi ar y ffordd a disgyn i ffos.

Roedd yn cludo 42 o ddisgyblion rhwng 14 ac 17 oed o ysgol Bourneside yn Cheltenham i Dora Baltea yn yr Eidal. Roedd chwech oedolyn a dau yrrwr ar y bws hefyd.

Cafodd dau o bobl ifanc eu cludo mewn hofrennydd i ysbytai arbenigol. Mae'r awdurdodau'n dweud fod anafiadau un yn ddifrifol iawn a bod ei fywyd mewn perygl.

Ffynhonnell y llun, @paulette59553

Fe gafodd 10 plentyn arall ac un oedolion fân anafiadau.

Dyw hi ddim yn glir beth achosodd y ddamwain, ond mae heddlu Ffrainc yn dweud nad oedd cerbydau eraill yn rhan ohoni.

Mewn datganiad, dywedodd Express Motors eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gysylltu â'r gyrwyr ac arweinwyr y daith. Pan fyddan nhw wedi cysylltu, medden nhw, byddan nhw'n gwneud popeth i'w helpu nhw, a helpu gyda'r ymchwiliad a'r ymholiadau.