Gwylanod yn achosi 'anghyfleustra enbyd' yn Llanfairpwll

  • Cyhoeddwyd
Gwylanod

Mae trigolion stad dai yn Llanfairpwll ar Ynys Môn wedi cyrraedd pen eu tennyn oherwydd gwylanod.

Ers tua dwy flynedd mae gwylanod wedi dechrau nythu ar doeau rhai o'r tai ar stad Bryn Bras a bellach mae'r adar yn achosi niwsans ac anghyfleustra enbyd i'r trigolion.

O fore gwyn tan nos mae'r gwylanod yn hedfan o'r naill do i'r llall gan ollwng baw ym mhobman ac maen nhw hefyd yn bur ymosodol, yn enwedig yn ystod y tymor nythu.

Mae rhai o'r trigolion yn ofni mynd â'u cŵn am dro ac maen nhw wedi gorfod rhoi'r gorau i eistedd yn yr ardd i fwyta pan mae hi'n braf.

'Niwsans llwyr'

Dywedodd un o'r trigolion, Janet Roberts: "Maen nhw o gwmpas y tŷ tua phump o'r gloch y bore yn deffro pawb.

"Mae 'na faw adar ym mhob man ar waliau'r tŷ a dwi wedi trio cael gwared â fo."

Yn ôl un arall o'r trigolion "maen nhw'n baeddu ffenestri, ceir, a dillad ar y lein, maen nhw'n niwsans llwyr".

Dywedodd un arall: "Maen nhw'n beryg o ran plant bach, maen nhw'n swoopio i lawr.

"Fedrwn ni ddim cael barbeciw achos mae gennym ni gymaint o ofn bod nhw yn mynd i ymosod."

Help gan y cyngor?

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ynys Môn eu bod wedi derbyn cwyn gan un o drigolion Llanfairpwll am y gwylanod, ond bod yr adar, fel pob aderyn arall, yn cael eu diogelu o dan Ddeddf Bywyd gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Ychwanegodd ei bod yn drosedd i ladd neu anafu unrhyw wylan yn fwriadol, neu ddifrodi nyth sy'n cael ei ddefnyddio.

Dydi'r cyngor felly ddim yn cynnig gwasanaeth i ymdrin â gwylanod, ond maen nhw'n dweud y gall pobol osod gwifrau tynn neu bigau ar hyd cribau toeau a chyrn simneiau i atal gwylanod, cyn belled a bod y pigau yn ddigon hir fel na all y gwylanod eu defnyddio i osod nyth.

Mae'n ymddangos felly mai'r wylan sy'n cael y gair olaf ar hyn o bryd.