Cyngor Sir Gâr i brynu adeilad hanesyddol y Guildhall

  • Cyhoeddwyd
NeuaddFfynhonnell y llun, GEOGRAPH/RUTH SHARVILLE

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn bwriadu prynu adeilad hanesyddol y Guildhall yng nghanol Caerfyrddin am £225,000.

Pleidleisiodd bwrdd gweithredol y cyngor ddydd Mawrth i brynu'r adeilad rhestredig.

Cafodd gwerth yr adeilad ei osod gan y prisiwr rhanbarthol oedd yn gweithredu ar ran Gwasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi, sydd yn gwerthu'r adeilad.

Mae dyfodol y Guildhall wedi bod yn y fantol ers i'r cyhoeddiad gael ei wneud ym mis Mai bod y llys yno yn mynd i gau.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Emlyn Dole nad oedd y cyfnod presennol yn un da i geisio dod o hyd i arian ar gyfer adeiladau, ond nad oedd am fod yn "arweinydd oedd yn gyfrifol am adael i'r adeilad fynd yn adfail yng nghanol y dref".

Ychwanegodd mai'r cam nesaf yw darganfod defnydd newydd i'r adeilad er mwyn cynhyrchu arian i'w gynnal.

Mae'r Guildhall wedi bod yn ganolbwynt i nifer o achosion llys enwog dros y blynyddoedd, ac fe wnaeth Gwynfor Evans annerch y dorf o falconi'r neuadd wedi iddo gipio sedd gyntaf Seneddol Plaid Cymru yn 1966.

Mae trafodaethau am bartneriaethau posib yn parhau rhwng y cyngor a Chyngor Tref Caerfyrddin a Heddlu Dyfed Powys.