Arddangos portread i anrhydeddu Gwynfor Evans

  • Cyhoeddwyd
Gwynfor Evans

Bydd AS cyntaf Plaid Cymru yn cael ei anrhydeddu, wrth i bortread ohono gael ei arddangos yn y Senedd yn San Steffan.

Fe gipiodd y diweddar Gwynfor Evans etholaeth Caerfyrddin oddi wrth y Blaid Lafur yn isetholiad 1966.

Dywedodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards bod y Pwyllgor Ymgynghorol y Llefarydd ar Weithiau Celf wedi cadarnhau y byddent yn edrych i brynu portread o Mr Evans i nodi hanner canmlwyddiant ers y fuddugoliaeth hanesyddol.

Dywedodd Mr Edwards y byddai'n sicrhau bod "etifeddiaeth a phresenoldeb" Gwynfor Evans yn parhau yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae David Lloyd George, Winston Churchill, Edward Heath, Tony Benn a James Callaghan ymhlith y portreadau sydd eisoes yn cael eu harddangos yn San Steffan.

'Parhau etifeddiaeth'

"Rwy'n falch iawn bod Curaduron y Casgliad Celf Seneddol yn ceisio meddiannu portread o Gwynfor, a hynny yn dilyn fy sylwadau i sicrhau fod etifeddiaeth Gwynfor Evans yn parhau yn Nhŷ'r Cyffredin," meddai Mr Edwards.

"Yn syml, ni fyddai Cymru fel y gwyddom ni heddiw yn bodoli heb ymdrechion Gwynfor Evans.

"Mae ei lwyddiannau yn dal i adleisio o amgylch Sir Gaerfyrddin a Chymru heddiw."

Ar ôl colli'r sedd i Lafur yn etholiad cyffredinol 1970, enillodd Mr Evans hi'n eto ym mis Hydref 1974, gan wasanaethu fel Aelod Seneddol nes 1979.

Bu farw Mr Evans yn 92 oed yn 2005.