Llywodraeth yn trafod prynu hen safle Hoover Merthyr

  • Cyhoeddwyd
HooverFfynhonnell y llun, Google

Mae BBC Cymru'n deall fod Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau i brynu un o hen safleoedd diwydiannol amlycaf cymoedd y de.

Mae'r llywodraeth wedi bod yn trafod gyda pherchnogion safle ffatri Hoover ym Merthyr Tudful, sef cwmni Candy.

Cafodd y ffatri ei chau yn 2009 yn ystod y dirwasgiad, gyda 300 o weithwyr yn colli eu swyddi.

Mae Hoover yn dal i ddefnyddio rhan o'r safle ar gyfer dosbarthu a chadw deunyddiau.

Nid yw'r llywodraeth wedi gwneud unrhyw sylw am y trafodaethau ac mae Hoover Candy yn dweud ei fod wedi trafod gyda nifer o gwmnïau sydd wedi dangos diddordeb yn y safle.

Petai'r llywodraeth yn prynu'r safle fe fyddai'n gytundeb sylweddol, wrth i swyddogion geisio hybu datblygiad economaidd ym mlaenau'r cymoedd.

Mae'r awdurdod lleol wedi dangos diddordeb mewn datblygu'r ardal ar gyfer trafnidiaeth fel rhan o gynllun y metro newydd, a hefyd ar gyfer swyddi a thai.

'Arwyddocâd anferthol'

Dywedodd arweinydd Cyngor Merthyr, Brendan Toomey y byddai'n croesawu gweld y safle'n cael ei drosglwyddo i'r sector cyhoeddus.

"Mae'r arwyddocâd, yn enwedig ar gyfer datblygu'r metro, yn un anferthol," meddai.

"Mae'r safle yn cynnig ei hun ar gyfer gorsaf reilffordd, ynghyd â chyfleusterau parcio a theithio. Mae'r safle hefyd yn ddigon mawr ar gyfer tai a datblygiadau eraill.

"Heblaw am y cysylltiad hanesyddol gyda'r ardal, mae wedi ei lleoli'n berffaith ger cyffordd oddi ar yr A470. Mae'r cysylltiadau'n gwbl berffaith.

"Os gall Llywodraeth Cymru ddod i gytundeb fe fyddai'n cael ei groesawu gan bawb yng Nghyngor Merthyr."

Mae'n debyg bod y trafodaethau wedi datblygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er nad oes pris wedi'i gytuno eto.

Dywedodd llefarydd ar ran Hoover Candy: "Mae'r safle'n dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer swyddfeydd Hoover Candy, fel warws ac ar gyfer dosbarthu.

"Ers cau ein gwaith cynhyrchu ym Merthyr Tudful yn 2009 rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda nifer sydd â diddordeb am ddyfodol hir dymor y safle.

"Er nad oes unrhyw gynlluniau penodol ar y funud, rydym yn parhau i ystyried cyfleoedd datblygu hyfyw."