UKIP: 'Olynydd i Gill ar gael' medd cadeirydd y blaid
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd UKIP yng Nghymru wedi dweud y dylai arweinydd y blaid gamu o'r neilltu o'i swydd bresenol fel Aelod Seneddol Ewropeaidd gan fod olynydd ar gael i'r swydd bellach.
Daw sylwadau Chris Smart yn dilyn y newyddion fod James Cole, oedd yn ail ar restr UKIP ar gyfer etholiadau Ewrop yn 2014, wedi ail-ymuno gyda'r blaid.
Dywedodd Mr Smart fod Mr Cole yn barod i olynnu, ond dywedodd Mr Gill y byddai hynny'n beth rhyfedd i'w wneud gan James Cole wedi sefyll ar ran plaid arall yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai.
Mae Mr Gill wedi ei feirniadu gan rai am wneud dwy swydd.
Roedd wedi dweud yn y gorffenol y byddai'n rhoi'r gorau i'w swydd fel ASE petai'n cael ei ethol i'r Cynulliad.
Ond wedi dod yn AC dywedodd nad oedd neb ar gael i'w olynu fel ASE UKIP dros Gymru, ac felly fe fyddai'n parhau i wneud y ddwy swydd, gan osgoi is-etholiad Ewropeaidd am ei swydd.
Os byddai Mr Gill yn camu o'r neilltu fe fyddai'r swydd yn mynd i James Cole, gan mai ei enw o oedd yn ail ar y rhestr yn etholiad i senedd Ewrop yn 2014.
Nid oedd mewn sefyllfa i wneud hyn cyn nawr gan ei fod ar y pryd wedi gadael UKIP.
Mae'r trydydd a'r pedwerydd enw ar y rhestr, Caroline Jones a Dave Rowlands, bellach yn ACau.
Etholiad
Fe wnaeth Mr Cole sefyll dros plaid Abolish the Welsh Assembly Party yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai cyn ail-ymaelodi gydag UKIP.
Dywedodd Mr Smart wrth BBC Cymru: "Fe ddylai Nathan Gill gamu o'r neilltu gan fod olynydd iddo nawr ar gael. Dydi gwneud dwy swydd ddim yn ymarferol.
"Rydym angen i bob un o'n saith AC i fod yn effeithiol ac ni all fod yn effeithiol yn gwneud dwy swydd.
"Dyw'r argraff gyda'r cyhoedd ddim yn dda chwaith. Mae James yn barod ag yn gallu gwneud y swydd."
Ond dywedodd Mr Gill y byddai'n "anhebygol iawn" y byddai Mr Cole yn cael ei "ystyried yn gymwys" i weithio fel ASE.
"Gadawodd Mr Cole y blaid yn ystod ffrae ac roedd yn feirniadol yn gyhoeddus o'i arweinyddiaeth cyn iddo sefydlu ei blaid ei hun, oedd yn cystadlu'n uniongyrchol gydag UKIP yn etholiadau'r Cynulliad, ac fe allai fod wedi costio tair sedd i'r blaid.
"Byddai'n ddewis rhyfedd iawn ac fe fyddai'n anhebydol iawn i unrhyw un ei weld fel ymgeisydd cymwys i fod yn ASE dros Gymru ar ran UKIP."
Dywedodd Mr Gill ddydd Sul fod y rhai oedd yn galw arno i gamu o'r neilltu yn gwneud hynny allan o "falais".