Prosiect Theatr Genedlaethol 'ar y silff' wedi Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae un o brosiectau Theatr Genedlaethol Cymru wedi cael ei roi "ar y silff am y tro" yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd cyfarwyddwr artistig y cwmni, Arwel Gruffydd, wrth BBC Cymru Fyw bod canlyniad y refferendwm wedi creu "ansicrwydd" ac yn gosod "her yn ariannol".
Daeth ei sylwadau wedi iddo gael ei ailbenodi i'r swydd am bum mlynedd arall, rhywbeth mae'n "falch iawn" ohono.
Roedd Mr Gruffydd wedi bod yn trafod prosiect rhyngwladol "hir dymor" yn yr Eidal gyda phedwar cwmni arall sy'n creu theatr mewn ieithoedd lleiafrifol.
Bu'r syniad yn ddibynnol ar nawdd gan yr Undeb Ewropeaidd fel rhan o'u rhaglen greadigol nhw.
Angen 'eglurder'
Ond fe eglurodd Mr Gruffydd bod "ansicrwydd bellach" oherwydd canlyniad y refferendwm.
Dywedodd: "Mi oeddem ni fel cwmni hefyd wedi gobeithio gwneud cais uniongyrchol i'r Undeb Ewropeaidd am nawdd ar gyfer prosiect arbennig, eto prosiect Ewropeaidd.
"Does 'na ddim pwynt bellach i ni barhau â'r amcan hwnnw nes daw 'na fwy o eglurder ynglŷn â'n perthynas ni â'r Undeb Ewropeaidd yn symud ymlaen.
"Felly oes, mae yna brosiect penodol wedi gorfod mynd ar y silff am y tro, ond gawn ni weld sut mae pethau'n datblygu."
'Blaenoriaeth'
Bu Mr Gruffydd hefyd yn trafod apelio at gynulleidfaoedd newydd yn ogystal â phlesio'r selogion.
Dywedodd: "Da' ni fel cwmni yn weld o fel mater o flaenoriaeth ein bod ni'n ceisio mynd â'n gwaith i faint bynnag mwyaf posib o bobl a pheidio dibynnu ar gynulleidfa ddiogel da' ni'n gwybod sydd yna sy'n driw i'r Theatr Genedlaethol.
"Lle ydyn ni ar y naill law yn gorfod gwarchod y gynulleidfa honno a'i gobeithion a'i disgwyliadau nhw o'r cwmni, mae yna gynulleidfa allan yna hefyd sydd byth yn dod, erioed wedi bod mewn cynhyrchiad gan y Theatr Genedlaethol.
"Wnawn i ddim bodloni nes bod ni wedi gwneud ein gora' i ddod â phobl newydd ato ni at ein gwaith ac at theatr drwy gyfrwng y Gymraeg."
Cyn y bleidlais ym mis Mehefin, dywedodd llefarydd ar ran Vote Leave, Vincent Bailey na fyddai gadael "yn ganlyniad brawychus o gwbl, ond yn un atyniadol iawn".
Ychwanegodd: "Mae gan Brydain fyd celfyddydol a diwylliannol llwyddiannus, ac mae'n siwr o ffynnu o gael ei ryddhau o hualau cyfreithiol yr UE a'r ymdrechion i'w sugno mewn i frand Ewropeaidd."