Panel yn atal penodi dirprwy i Gomisiynydd Heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae panel wedi gwrthod cadarnhau penodiad Dirprwy Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd oherwydd pryderon am "ddiffyg tryloywder".
Cafodd Ann Griffith, 55, sy'n gynghorydd Plaid Cymru ar Ynys Môn, ei dewis gan y Comisiynydd newydd Arfon Jones.
Ond mae Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi cwestiynu ymrwymiad llawn amser Ms Griffith i'r rôl.
Codwyd pryderon hefyd am "ddiffyg tryloywder" yn y broses benodi a'r ffaith na chafodd y swydd ei hysbysebu.
Fe enillodd Arfon Jones etholiad Comisiynydd yr Heddlu ar ran Plaid Cymru ym mis Mai, gan olynu'r Comisiynydd cyntaf yn y swydd Winston Roddick.
'Dim proses hysbysebu'
Mae swydd y Dirprwy Gomisiynydd yn talu cyflog o £42,000, a chan Mr Jones y mae'r hawl i wneud y penodiad.
Ond fe fynegodd rhai o'r panel bryder ar ôl i Ms Griffith ddweud y byddai'n gweithio tridiau'r wythnos yn y rôl. Ni ddywedodd chwaith a fyddai'n rhoi gorau i'w swydd fel cynghorydd yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.
Dywedodd cadeirydd y panel, y cynghorydd Julie Fallon, bod pryder am "dryloywder" y broses benodi ac nad oedd proses hysbysebu a recriwtio wedi digwydd, er bod y bocsys cywir wedi'u ticio.
Holodd y cynghorydd Philip Evans o Gonwy sut y byddai Ms Griffith yn canfod digon o amser i wneud y swydd yn iawn a hithau hefyd yn gadeirydd ar bwyllgorau cynllunio a thrwyddedu ar Gyngor Môn.
Dywedodd Ms Griffith y byddai'n sicrhau na fyddai unrhyw wrthdaro buddiannau rhwng y swyddi, ac y byddai'n rhannu ei hamser.
Roedd dau o Aelodau Cynulliad Ceidwadol gogledd Cymru, Mark Isherwood a Janet Finch-Saunders, eisoes wedi beiriadu'r broses benodi.
'Profiad a gallu'
Mynnodd Arfon Jones, 60, ei fod wedi dewis ei ddirprwy yn seiliedig ar ei sgiliau, gwerthoedd a'i hawydd i gadw pobl ifanc allan o'r system cyfiawnder troseddol, yn ogystal â'i 30 mlynedd o brofiad o weithio â phlant ac oedolion bregus.
Ychwanegodd Ms Griffith fod ganddi'r gallu ar gyfer y swydd, a'i bod hi wedi gweithio gyda'r NSPCC am ddeng mlynedd.
Ond yn dilyn trafodaeth y tu ôl i ddrysau caeëdig ddydd Iau fe gyhoeddodd Julie Fallon na fyddai'r panel yn cadarnhau'r penodiad ac y byddai rheswm yn cael ei roi yn y saith diwrnod nesaf.
Dywedodd Ann Griffith ac Arfon Jones, fydd yn parhau i fod yn aelod o Gyngor Wrecsam tan y flwyddyn nesaf, y bydden nhw'n gwneud sylw pan oedd rheswm yn cael ei roi.