Llywodraeth Cymru yn caniatáu cyffur canser gwaed

  • Cyhoeddwyd
Drugs researchFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae triniaeth newydd ar y Gwasanaeth Iechyd ar gyfer canser gwaed wedi cael ei ganiatáu gan Lywodraeth Cymru.

Bydd oedolion sydd yn dioddef o myeloma ymledol nawr yn medru cael eu trin gyda'r cyffur Revilimid, wedi'i gymryd ar y cyd â dexamethasone.

Mae'n ganser sydd yn datblygu ym mêr yr esgyrn ac yn ymosod ar gelloedd gwaed, sydd yn gallu creu problemau i'r esgyrn a'r arennau.

Bydd y cyffur ar gael "ble y bo'n glinigol briodol", yn ôl Llywodraeth Cymru.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf o 2013 roedd 300 o achosion newydd o myeloma ymledol yng Nghymru.

Mae'r cyffur Revlimid eisoes ar gael ar y gwasanaeth iechyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid yn Lloegr.

'Opsiwn ychwanegol'

Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd Dr Ceri Bygrave, meddyg gwaed ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd: "[Mae Revilimid] yn dod ag opsiwn ychwanegol pwysig i gleifion yng Nghymru sydd newydd gael diagnosis o glefyd nad oes modd ei wella ar y cyfan."

Ychwanegodd fod pobl oedd â'r math yma o ganser o fynd yn wael unwaith eto.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yng Nghymru rydyn ni'n falch o'n dull ni yn seiliedig ar dystiolaeth o gyflwyno meddyginiaethau newydd yn y Gwasanaeth Iechyd.

"Roedden ni'n falch o gadarnhau argymhelliad Grŵp Strategaeth Feddygol Cymru Gyfan i wneud y cyffur newydd yma ar gael i gleifion yng Nghymru ble fo'n glinigol briodol."

Dywedodd Deb Richardson, 48, o Bont-y-pŵl yn Nhorfaen ei bod hi'n croesawu'r penderfyniad, ar iddi hi orfod treulio wyth wythnos yn cael triniaeth yn dilyn diagnosis o myeloma yn 2012.

"Roedd clywed bod triniaeth ar gael yn rhywle arall, ond nid yn eich ardal chi, yn anodd i'w gymryd. Mae wir yn loteri côd post," meddai'r fam i bedwar o blant.

"Gyda myeloma, mae'n bosib na fydd triniaeth sydd yn gweithio i un person yn gweithio i'r person nesaf, felly fe allai ffurf newydd o drin cleifion rhoi cyfle arall i fyw i rywun."