Grŵp UKIP yn y Cynulliad yn rhoi rhybudd arall i Nathan Gill

  • Cyhoeddwyd
Nathan Gill

Mae pump allan o saith AC UKIP yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi galw ar Nathan Gill i roi'r gorau i'w sedd oni bai ei bod yn ildio ei sedd yn Senedd Ewrop.

Bu'r pum aelod yn cwrdd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth ar ôl i Fwrdd Gweithredol y blaid roi rhybudd i Mr Gill, arweinydd y blaid yng Nghymru, y byddai'n cael ei ddiarddel oni bai ei fod yn rhoi'r gorau i un o'r ddwy sedd.

Mae Mr Gill wedi dweud fod y rhai sy'n galw arno i gamu o'r neilltu yn gwneud hynny oherwydd "malais".

Dywedodd hefyd y byddai'n ystyried camau cyfreithiol pe bai'n cael ei ddiarddel.

Ar ôl cyfarfod ddydd Mawrth dywedodd Neil Hamilton, arweinydd UKIP yn y Cynulliad: "Rydym yn gofyn i Nathan, pe na bai am ildio ei sedd fel Aelod Seneddol Ewropeaidd, yna dylai ymddiswyddo fel AC a chaniatáu i Mandy Jones, oedd ar y rhestr ranbarthol ar gyfer y gogledd, i gymryd ei le - ac felly byddai dim angen isetholiad."

"Does dim angen isetholiad. Er mwyn lles nid yn unig UKIP, ond pobl Cymru, fe ddylai Nathan ymddiswyddo o'i sedd yn y Cynulliad."

Dywedodd Mr Hamilton y byddai'r grŵp yn cwrdd eto i drafod y sefyllfa ymhellach.

Roedd o'r farn mai dydd Sul yw'r dyddiad terfynol er mwyn i Mr Gill ddweud ei fod yn rhoi'r gorau i un o'i ddwy sedd.

Fe etholwyd Nathan Gill yn Aelod Seneddol Ewropeaidd yn 2014 ac ers mis Mai eleni mae wedi cynrychioli UKIP yn y Cynulliad hefyd.