Chroma yn ennill Brwydr y Bandiau Eisteddfod Y Fenni
- Cyhoeddwyd
Cafodd Chroma eu coroni'n enillwyr yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau nos Fercher.
Daeth y grŵp o Bontypridd i'r brig gyda'u cân, Datod, gan drechu pump o artistiaid eraill - Henebion, Pyroclastig, Glain Rhys, Jacob Elwy a Sian Richards.
Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd cyn-gitarydd Big Leaves a Sibrydion Mei Gwynedd, Heledd Watkins o fand HMS Morris ac Ifan Sion Davies, prif leisydd Sŵnami.
Roedd gwobr ariannol o £1,000, Sesiwn C2, gig ar lwyfan Maes B a'r cyfle i ymddangos ar raglen Ochr 1 ar S4C ar gael i'r band buddugol.
Am yr ail flwyddyn yn olynol cafodd y gystadleuaeth ei chynnal ar y cyd gan Radio Cymru, Maes B a Mentrau Iaith Cymru, a hynny'n dilyn cyfnod pan oedd C2 Radio Cymru a Mentrau Iaith Cymru yn cynnal cystadleuaeth brwydr y bandiau ar wahân i'r Eisteddfod.