Hefin Robinson yn ennill y Fedal Ddrama

  • Cyhoeddwyd
Medal

Hefin Robinson sydd wedi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016 am ei ddrama 'Estron'.

Roedd yn drydydd yn y gystadleuaeth ddwy flynedd yn ôl, ac yn ail y llynedd, ond daeth i'r brig yn y gystadleuaeth eleni. Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol y Dderwen ac Ysgol Bro Myrddin, cyn mynd ymlaen i astudio Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Caiff y Fedal Ddrama ei chyflwyno am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

Dywedodd Hefin fod y profiad o ennill yn "hollol afreal", gan ychwanegu: "Doeddwn i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl. Roedd e'n anhygoel, fe wnes w fwynhau, aeth e mor gyflym.

"Rwyf wrth fy modd. Mae cyfrwng y theatr yn bwysig i mi ac yn gyfrwng rwy'n dwli arno. I ddod yn gyntaf ar ôl trio dwywaith o'r blaen - roedd e'n wych."

Y beirniaid oedd Aled Jones Williams, Catrin Jones Hughes a Ffion Haf. Traddodwyd y feirniadaeth o'r llwyfan gan Catrin Jones Hughes, a dywedodd: "Daeth 12 ymgais i law ac mae hyn yn galonogol.

"Roedd hi'n bleser clywed lleisiau newydd ym myd y theatr yng Nghymru a braf oedd profi gweledigaeth amrywiol y 12. Mae hi wastad yn ddifyr clywed beth yw syniadau ein hysgrifenwyr am y byd ac yn arbennig, yn y gystadleuaeth hon, wrth i ambell thema a phwnc gael eu gwyntyllu mewn ffyrdd mor amrywiol gan gystadleuwyr gwahanol.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Catrin Jones Hughes yn traddodi'r feirniadaeth

'Drama am ddrama'

"Ar sawl ystyr, drama am ddrama a geir gan Thomas Jerome Newton yn ei ddrama 'Estron'. Mae'r ddrama'n llythrennol yn dod i fodolaeth o flaen ein llygaid a'r llwyfan yn fan y creu. Mae'r cyfan yn teimlo fel ffantasi. Cawn ein hanesmwytho. Chwelir y ffiniau rhwng llwyfan a set, rhwng actor a chymeriad, rhwng y sgript ar y llwyfan a'r sgript sy'n cael ei hysgrifennu o'n blaenau ar y cyfrifiadur. Defnyddir Skype fel y mae Beckett yn defnyddio'r tâp yn Krapp's Last Tape.

"Mae yma ffresni beiddgar gan ysgrifennwr arbrofol, hyderus, nad yw'n ofni torri'r 'rheolau'. Mae'n rhannol o ddifrif, rhannol tafod yn y boch, chwareus, prydferth, ond drwy'r cyfan yn llawn dychymyg. Dyma rywun sy'n gwybod sut i ddefnyddio'r gwagle theatrig a hefyd ei ddadstrwythuro. Gallwn weld ei photensial cyffrous o'i llwyfannu."

Gyrfa

Ar ôl graddio, gweithiodd Hefin fel actor mewn amryw o brosiectau theatr-mewn-addysg cyn symud i Stratford-upon-Avon i weithio gyda'r Royal Shakespeare Company, lle cafodd y cyfle gwerthfawr o wylio meistri wrth eu gwaith mewn sefydliad creadigol byd-enwog.

Yna treuliodd amser yn Llundain er mwyn dilyn astudiaethau pellach yng ngwaith Shakespeare yn LAMDA. Ers dychwelyd i Gymru, mae wedi gweithio i gwmnïau amrywiol yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a BBC Worldwide. Erbyn hyn mae'n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Ganolfan Mileniwm Cymru ochr yn ochr â pharhau â'i waith ysgrifennu a theatr.

Mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys cyfansoddi a chanu'r piano, arlunio, ymgolli ym myd natur, darllen, ffilm a mynychu'r theatr.