Ffoaduriaid i gael help prifysgolion

  • Cyhoeddwyd
aber
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gobeithio cynnig ysgoloriaeth i 5 o fyfyrwyr

Mae rhai o brifysgolion Cymru yn datblygu cynlluniau i gynnig ysgoloriaethau i ffoaduriaid.

Cadarnhaodd Prifysgol Aberystwyth eu bod yn trafod cynnig pum ysgoloriaeth, ac mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ystyried cynllun tebyg.

Mae Prifysgol Caerdydd eisoes yn cynnig cymorth ariannol i geiswyr lloches.

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn llunio cynlluniau ariannol ynglŷn â'r cynllun yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

Bu'r coleg yn trafod eu cynlluniau a'r Cyngor Prydeinig a Universities UK.

'Ddim yn fforddiadwy'

Fe groesawyd y cynlluniau gan Mohammed Al Hadj Ali o Gymdeithas Cymru Syria.

Fe ddywedodd Mr Ali: "Does gan fyfyrwyr meddygaeth ddim lot o opsiynau, mae'n anodd cael arian ar gyfer cwrs sydd yn costio £25,000 y flwyddyn ar gyfer ffioedd a chostau byw.

"Dyw e ddim yn fforddiadwy i rywun sydd ddim yn medru gwneud cais am fenthyciad myfyrwyr."

Mae nifer o brifysgolion eraill yn cynnig cymorth amrywiol i fyfyrwyr rhyngwladol, gan gynnwys Prifysgol Bangor sydd yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr tramor.

Mae pob un o gynghorau Cymru wedi addo cynnig lloches i ffoaduriaid o Syria. Hyd yma mae 78 o bobl wedi symud i Gymru.

Yn eu plith mae Mohammad Haji-Saleh sydd wedi byw yng Nghaerdydd ers blwyddyn.

Bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w astudiaethau meddygol yn Syria ar ôl cwblhau dwy flynedd mewn coleg.

"Rydw i wedi gwneud cynigion i lawer o brifysgolion ond mae'n anodd" meddai.

"Rwy'n dal i drio parhau â fy astudiaethau"