Lluniau'r Steddfod: Dydd Sadwrn 6 Awst // Eisteddfod Pictures: Saturday 6 August

  • Cyhoeddwyd

Diwrnod ola'r cystadlu, gyda chystadleuaeth Gwobr Goffa David Ellis - Y Rhuban Glas, Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn a'r corau meibion yn cymryd eu lle yn y Pafiliwn. Gallwch wylio fideo byw drwy'r dydd, a gweld canlyniadau ac uchafbwyntiau'r cystadlu yn ein hadran arbennig ar Cymru Fyw, dolen allanol.

Saturday sees the day of competing at the Eisteddfod. This afternoon the winner of the David Ellis Memorial Prize The Blue Ribband is announced, and the Male Voice Choirs take to the stage. You can also watch a live video from the Pavilion with English commentary, and see highlights and results on our special Eisteddfod website, dolen allanol.

Huw Chiswell
Disgrifiad o’r llun,

Roedd torf yn eu miloedd yn gwrando ar Huw Chiswell yn perfformio ar lwyfan y Maes nos Wener // Huw Chiswell headlining on stage on Friday night

Dawnswyr
Disgrifiad o’r llun,

Dawnswyr Pen-y-Fai ac Aberystwyth yn mwynhau brecwast ben bore // Dancers from Pen-y-Fai and Aberystwyth enjoying a coffee in the sun before performing in the Folk tent

Macsen a Corrigan
Disgrifiad o’r llun,

Pi-po! Macsen a Corrigan o Berlin, yr Almaen sydd ar eu gwyliau gyda'u Mam-gu yn Y Fenni, yn mwynhau'r Maes // Brothers Macsen and Corrigan have travelled from Berlin to Abergavenny to enjoy the Eisteddfod

Actorion ffilm 'Mae Gen i Gariad'
Disgrifiad o’r llun,

Gruffudd Glyn, Hannah Daniel (yn y canol) ac actorion eraill yn darllen drafft o sgript ffilm newydd Meic Povey 'Mae Gen i Gariad' sy'n seiliedig ar fywyd Tony ac Aloma // Actors came to the Maes for a script read-through of a new Meic Povey film

Dr Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dr Elin Jones yw Llywydd yr Ŵyl eleni. Traddododd ei haraith, ar y thema Cofio, ar lwyfan yr Eisteddfod ddydd Sadwrn yn y dafodiaith leol, Y Wenhwyseg // Local historian Dr Elin Jones is this year's Festival President

Baneri Cymru, Owain Glyndŵr a baner Sir Fynwy ar y tai yma, sydd â golygfa penigamp o'r Maes // The locals in these houses have a bird's eye view of the Maes
Disgrifiad o’r llun,

Baneri Cymru, Owain Glyndŵr a baner Sir Fynwy ar y tai yma, sydd â golygfa penigamp o'r Maes // The locals in these houses have a bird's eye view of the Maes

Clwb pêl-droed y beirdd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Geraint Lövgreen yn un o Glwb Pêl-droed y Beirdd bu'n hel atgofion yn Y Lolfa Lên heddiw am anturiaethau Cymru ym Mhencampwriaeth Euro 2016 // Poets reminicing about the Euros in France

Côr Meibion Mynwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n ddiwrnod y corau meibion yn y Pafiliwn heddiw // Members of Côr Meibion Mynwy sharing a story

Estronwyr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carolyn o Abertawe ei dal gan estronwyr! // Carolyn from Swansea captured by aliens!

Larry Lynch
Disgrifiad o’r llun,

Larry Lynch o Gôr Meibion Cil-y-Coed yn cymryd munud o hoe cyn camu ar y llwyfan yng nghystadleuaeth y Corau Meibion // Larry Lynch having a sit down before stepping on to the main stage to compete with Caldicot choir

Teulu Williams
Disgrifiad o’r llun,

O Bwllheli i'r Fenni i fwynhau'r Steddfod //The Williams family from Pwllheli enjoying the sunshine

Hen gyfeillion. Arfon Jones a Buddug Jones, dau o'r stiwardiaid sydd wedi gweithio'n ddiwyd trwy'r wythnos // Arfon Jones and Buddug Jones, two of the Eisteddfod stewards are back for another year
Disgrifiad o’r llun,

Hen gyfeillion. Arfon Jones a Buddug Jones, dau o'r stiwardiaid sydd wedi gweithio'n ddiwyd trwy'r wythnos // Arfon Jones and Buddug Jones, two of the Eisteddfod stewards, are back for another year

Efeilliaid
Disgrifiad o’r llun,

Efeilliaid Tyler a Leo a'u harwr Gareth Bale // Could twins Tyler and Leo be the next Gareth Bale?

Leusa
Disgrifiad o’r llun,

Leusa fach yn ffan mawr o Mistar Urdd //One of Mistar Urdd's biggest fans

Eden
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r grŵp Eden wedi ail ffurfio eleni ac fe roedden nhw'n perfformio ar Lwyfan y Maes ddydd Sadwrn // Eden performing