Ateb y Galw: Nanw Maelor

Nanw MaelorFfynhonnell y llun, UMCA
  • Cyhoeddwyd

Nanw Maelor ydi llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth eleni.

Ar ôl iddi dreulio tair blynedd yn astudio yn y 'coleg ger y lli' cyn dechrau ar ei swydd gydag UMCA does ryfedd bod y dref glan môr yn le arbennig iawn iddi.

Dyma gyfle i ddod i adnabod y llywydd newydd (sydd hefyd yn Swyddog Diwylliant Cymreig Undeb gyda Phrifysgol Aberystwyth) yn well.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Mae'n siŵr mai'r atgof cyntaf imi oedd bod ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug efo Mam efo'r Cylch Meithrin - dwi'n amau mai'r peth mwyaf cofiadwy oedd y ffaith inni lwyddo i gael Mam ar lwyfan o gwbl!

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Nanw gyda'i ffrindiau colegFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Nanw gyda'i ffrindiau coleg

Er 'mod i'n wreiddiol o'r Wyddgrug ac yn falch iawn o fod wedi fy magu ar y ffin, mi fyddai'n anodd peidio â dweud Aberystwyth - erbyn hyn, mae pob cornel o'r dref yn dal rhyw atgof o'm tair blynedd yn y coleg.

Mae'n wir be maen nhw ei ddweud - unwaith mae Aber yn cael gafael arnoch chi, mae'n anodd torri'n rhydd!

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Myfyrwyr Aberystwyth yn dathlu ennill Eisteddfod Rhyng-gol Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu buddugoliaeth Eisteddfod Rhyng-gol 2025

Er 'mod i wedi cael sawl noson wyllt - ac mae'n debyg bod sawl un arall i ddod - does dim llawer o'r rheiny yn curo noson yr Eisteddfod Rhyng-gol yn Aber eleni.

Roedd ennill yr Eisteddfod o gymaint o bwyntiau a chwalu Bangor yn rhacs ar ein tir ni ein hunain yn brofiad bythgofiadwy a hynny yn fy mlwyddyn olaf fel myfyriwr efo'm criw ffrindiau i gyd.

Wedyn, mynd lawr i'r tŷ stiwdant a nôl swper a photel o broseco cyflym o'r archfarchnad cyn mynd i'r gig yn y nos. Wedyn, gathon ni wylio Dros Dro a oedd yn newydd ennill Cân i Gymru ar y pryd a Bwncath, fy hoff fand Cymraeg, yn Academi a hithau'n orlawn o fyfyrwyr Cymraeg.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Angerddol, sensitif, brwdfrydig.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Un profiad 'rydw i'n edrych yn ôl arno fo yn aml ydy ennill cadair yr Eisteddfod Rhyng-gol yn ôl yn 2024.

Nanw gyda thlws Cadair Eisteddfod Rhyng-gol 2024Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Do'n i erioed wedi ysgrifennu barddoniaeth o ddifri cyn hynny ac felly mi oedd hi'n bach o sioc i mi ac i bawb - mae'r profiadau a'r hyder 'dw i wedi'u hennill ers hynny wedi agor cymaint o ddrysau a dwi'n ddiolchgar iawn am hynny.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Mi wnes i rywbeth pan ro'n i wedi meddwi a'r bore wedyn, mi wnes i ddeffro i weld bod o wedi cyrraedd Rhwydwaith Menywod Cymru... ddyweda i ddim mwy.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Mi fydda fy ffrindiau'n gallu eilio 'mod i'n berson reit emosiynol - yn crio'n eithaf aml pan dwi'n stressed neu hyd yn oed yn gwrando ar gerddoriaeth, ond yn fwy diweddar, mae'n debyg mai gwylio diweddglo annisgwyl y rhaglen We Were Liars oedd hi. Roedd hi'n anodd atal y dagrau a finne ar awyren hefyd.

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Dwi 'di sôn am Steddfod Wyddgrug yn barod ac er nad ydw i'n cofio ryw lawer am yr Eisteddfod ei hun a finne'n dair blwydd oed, y llun yma o'm teulu i gyd - ac eithrio Dad druan oedd yn tynnu'r llun - ydy un o'r lluniau pwysicaf i mi.

Mae'n un o'r lluniau prin ohonon ni i gyd ac mae'n braf cael edrych yn ôl arno fo.

Llun teulu Nanw, pan oedd hi'n dair oedFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Nanw gyda'i theulu: (o'r chwith i'r dde) Nan Wyddgrug, Nanw, Taid Abergele, Mabli, (chwaer Nanw), Grandad Wyddgrug, Nain Abergele a Ffion, mam Nanw, yn sefyll yn y crys coch

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Methu ymdopi heb botyn o Vaseline efo fi.

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Anodd dewis un. Dwi'n hoff iawn o lyfr Gwenllian Ellis, Sgenai'm Syniad, a'r ffilm Little Women - mae'r ddau yn crynhoi'r profiad o fod yn ferch mewn ffordd mor onest, sy'n sicr yn gallu bod yn brin drwy gyfrwng y Gymraeg.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Taid - mae 'na sawl gwaith lle dwi wedi meddwl gymaint fyswn i'n licio cael ei gyngor o a fasa fo wastad yn llwyddo i wneud imi chwerthin.

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae lot yn tybio 'mod i wedi enwi ar ôl yr ysbyty y ces i 'ngeni ynddi - Ysbyty Maelor - ond mewn gwirionedd, mae mwy na hynny. Fy hen daid oedd Maelor - fe drodd o'n 100 pan ganwyd i ac felly dyna'r rheswm.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Nanw gyda'i rhieni a'i chwaer Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Nanw gyda'i rhieni Ffion a Colin, a'i chwaer Mabli

Mae hi'n ateb ddigon syml ond fyswn i'm eisiau dim byd mwy na threulio'r diwrnod efo Mam, Dad, fy chwaer a'r cathod wrth gwrs efo ambell i ddiod a llond fy mol o fwyd a hynny heb boeni am y goblygiadau!

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Dwy gathFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Magi a Megs

Un o'm cathod, mae'n debyg - bywyd braf o gysgu drwy'r dydd a thawelwch meddwl llwyr.

Hefyd o ddiddordeb:

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig