Cymru yn colli o 2-4 yn erbyn Gwlad Belg

- Cyhoeddwyd
Colli fu hanes Cymru o 2-4 yn erbyn Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun.
Mae'r golled yn golygu bod Cymru yn y trydydd safle yng Ngrŵp J gyda dwy gêm yn weddill.
Fe fydd Cymru'n gorffen eu hymgyrch ym mis Tachwedd gyda thaith i Liechtenstein cyn gêm gartref yn erbyn Gogledd Macedonia.

Rhoddodd Joe Rodon y dechrau perffaith i Gymru ar ôl i'r tîm cartref fygwth gôl Gwlad Belg sawl tro yn y munudau agoriadol.
Roedd yr amddiffynnwr yn rhydd yng nghwrt yr ymwelwyr i benio i'r rhwyd o gic gornel Sorba Thomas wedi saith munud.
Ond fe wnaeth Gwlad Belg daro'n ôl bron yn syth drwy gic o'r smotyn dadleuol Kevin De Bryune.
Roedd y dyfarnwr fideo wedi ymyrryd ar ôl i'r bêl daro llaw Ethan Ampadu yn y cwrt, ac bod ei fraich wrth ei ochr, a'r bêl wedi ei tharo yn agos iddo, fe gytunodd y dyfarnwr ar y cae ei bod yn drosedd gan y Cymro.
Roedd y gêm wedi ei throi ar ei phen yn fuan wedyn wrth i Jeremy Doku ddyfalbarhau i lawr asgell chwith Cymru.
Tynnodd y bêl yn ôl yn berffaith i Thomas Meunier oedd wedi amseru ei rediad yn berffaith i'r cwrt, a tharo chwip o ergyd heibio Karl Darlow yn y gôl i Gymru.
Fe allai Gwlad Belg fod wedi manteisio ymhellach hefyd, wrth i Arthur Theate wastraffu cyfle da yn y cwrt cyn i Rodon lwyddo i atal ergyd Leandro Trossard gydag amddiffyn gwych cyn yr egwyl.
Roedd Doku'n parhau'n fygythiad i lawr yr asgell, gan greu cyfle da i De Bryune, ond tarodd yntau ei ergyd ymhell dros y trawst.
Yr ymwelwyr, felly oedd ar y brig ar yr hanner o 2 i 1.

Ond a oedd 'na lygoden o obaith i Gymru yn yr ail hanner?
Gwelwyd doniau Doku eto ar ddechrau'r ail hanner ac yntau'n bygwth amddiffyn Cymru o'r asgell dde.
Gyda'r dorf yn dechrau codi'i llais, gwelwyd ychydig mwy o dempo yn chwarae'r tîm cartref, yn enwedig i lawr yr asgell chwith lle roedd Thomas yn edrych yn fygythiol a'r bêl wrth ei droed.
Gydag ugain munud o'r gêm yn weddill, daeth siom i Gymru wrth i Ben Davies - a oedd yn ennill ei ganfed cap dros ei wlad heno - orfod adael y cae yn sgil anaf.
Bedair munud yn ddiweddarach, ildiodd Cymru ail gic o'r smotyn wedi i Jordan James lawio'r bêl yn y cwrt cosb.
Fe gafodd y timau gwmni llygoden fawr ar y cae yn ystod yr ail hanner hefyd - a rwystrodd y chwarae am rai munudau.

Sgoriodd Kevin De Bruyne ei ail gôl o'r gêm gan wneud y sgôr yn 1-3 â chwarter awr o'r gêm yn weddill.
Roedd y dorf o dros 32,000 yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn parhau i annog Cymru i ymosod a chau'r bwlch, a chafwyd llygedyn o obaith pan rwydodd Broadhead â munud i fynd.
Er hynny, Gwlad Belg gafodd y gair olaf wrth i Trossard sgorio gan wneud y sgôr terfynol yn 2-4.
Yn dilyn y canlyniad hwn, mae Cymru'n drydydd yn y grŵp â dwy gêm yn weddill.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd29 Medi