Cyhuddo dau ddyn o lofruddio Ian Watkins yn y carchar

Ian WatkinsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ian Watkins o Bontypridd ei garcharu yn 2013 am droseddau rhyw yn erbyn plant

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o lofruddio'r pedoffeil Ian Watkins mewn carchar yn Lloegr.

Cafodd y cyn-ganwr gyda'r grŵp Lostprophets anaf angheuol yn dilyn digwyddiad yng Ngharchar Wakefield ychydig ar ôl 09:30 ddydd Sadwrn.

Fe gafodd ddedfryd o 29 mlynedd dan glo yn 2013 am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant, gan gynnwys ymgais i dreisio babi.

Mae'r ddau sydd wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth - Rashid Gedel, 25, a Samuel Dodsworth, 43 - wedi ymddangos yn Llys Ynadon Leeds ddydd Llun, gan gadarnhau eu henwau llawn a dyddiadau geni.

Fe ymddangosodd y ddau ar wahân, a bydd y ddau yn ymddangos yn Llys y Goron Leeds ddydd Mawrth.

Samuel Dodsworth a Rashid GedelFfynhonnell y llun, Heddlu Sir Gorllewin Efrog
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Samuel Dodsworth a Rashid Gedel ymddangos yn Llys y Goron Leeds ddydd Llun

Plediodd Watkins yn euog i gyhuddiadau o geisio treisio a cheisio ymosod yn rhywiol ar blentyn dan 13 oed, ond fe wadodd gyhuddiad o dreisio.

Fe blediodd yn euog hefyd i gynllwynio i dreisio plentyn; tri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar blentyn; saith cyhuddiad o dynnu, creu neu feddu ar luniau anweddus o blant; ac un cyhuddiad o feddu ar lun pornograffig eithafol yn cynnwys gweithred rhyw ar anifail.

Bu ymosodiad blaenorol ar Watkins yng Ngharchar Wakefield yn 2023, ond doedd ei anafiadau ddim yn bygwth ei fywyd y tro hwnnw.

Cafodd Lostprophets eu ffurfio ym Mhontypridd yn 1997, ac am gyfnod roedden nhw ymhlith grwpiau mwyaf poblogaidd y DU.

Fe gyrhaeddodd un o'u pum albwm frig rhestr y gwerthwyr gorau yn y DU, a rhwng 2002 a 2010 fe gyrhaeddodd 11 o'u senglau y rhestr y 40 uchaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.