Dwy chwaer yn corddi'r dyfroedd yn y byd rhwyfo

Erin a Cari Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Erin a Cari Meredith

  • Cyhoeddwyd

Mae dwy chwaer ifanc o Gaerdydd yn prysur gwneud eu marc ar y byd rhwyfo.

Ar ôl dechrau arni ar afon Taf, mae Erin a Cari Meredith bellach wedi ennill gwobrau yn genedlaethol a rhyngwladol, ac wedi rhwyfo dros Gymru. Ac er y gwaith caled, mae'r ddwy yn mwynhau bob eiliad.

O'r ysgol i gynrychioli Cymru

Cael y cyfle i gael blas ar rwyfo yn Ysgol Plasmawr ym mlwyddyn 7 a ddechreuodd pethau i Erin. Ymunodd wedyn â Chlwb Rhwyfo Llandaf, ac mae ei rhwyfo wedi mynd o nerth i nerth ers hynny, er fod Covid wedi amharu ar ei chyfle cyntaf i gynrychioli ei gwlad yn y gamp, meddai:

"Y gôl oedd wastad gneud tîm Cymru pan o'n i'n iau. Pan ddaeth y cyfle pan o'n i'n 17, daeth Covid felly roedd yr Home International Rowing Regatta – sydd rhwng Cymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon – wedi'i ganslo.

"Ond ges i'r fraint o allu cystadlu i'r tîm cenedlaethol pan o'n i'n 19. O'dd hwnna'n rili cŵl, er mai fi oedd babi'r tîm ac o'n i'n meddwl 'be' dwi'n 'neud fan hyn?!'"

Pedair merch yn rhwyfoFfynhonnell y llun, Llun cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cari (ail o'r chwith) ei hysbrydoli i ddechrau rhwyfo ar ôl gweld gymaint oedd ei chwaer fawr, Erin (cyntaf ar y dde) yn mwynhau - ac mae'r ddwy wedi cael llwyddiant aruthrol yn y gamp

Ers ymuno â thîm rhwyfo Prifysgol Birmingham, mae hi'n sicr wedi gweld gwelliant yn ei thechneg, ac mae hi wedi dod â llwyddiant mawr i'r tîm yn ystod ei chyfnod yno:

"O'n i'n gwybod fod y rhwyfo yn ocê yno, ond o'n i'n rili lwcus achos 'naeth Jamie [Wilton], y prif hyfforddwr, ddod nôl i Birmingham yr un flwyddyn â 'nes i ddechrau. Ac mae'r clwb wir wedi mynd yn dda.

"Fi oedd capten y merched yn yr ail flwyddyn. Doedd y clwb heb ennill unrhywbeth yn regata BUCS, y gystadleuaeth Brydeinig i brifysgolion, am ryw bum mlynedd, a ges i fedal yn y lightweight single, a 'naeth hynny arwain at fwy o wobrau.

"Yn y flwyddyn sydd newydd fod, 'naeth Cari ymuno a lot o ferched da eraill. 'Nes i gystadlu dros Gymru eto a 'nes i ennill yn regata Henley Women's, rhywbeth o'n i wedi bod eisiau ei wneud ers i mi ddechrau ym Mlwyddyn 7."

Cefnogi drwy'r cyfan

Dilynodd Cari lwybr Erin, gan hefyd fynd i astudio – a rhwyfo – ym Mhrifysgol Birmingham. Ond roedd hi'n sicr i ddweud o'r dechrau nad oedd hi eisiau bod yn "Erin part 2" meddai.

"Un rheswm pam ddes i i Birmingham oedd o'n i'n barod wedi cwrdd â Jamie, o'n i'n gwybod sut oedd e'n hyfforddi, ac o'n i'n gwybod fod e wedi gneud i Erin fynd yn rili cyflym, ac o'n i'n gwybod bydde fe'n gallu gneud fi yn gyflym. Er mae e wastad yng nghefn fy meddwl i pa mor gyflym oedd Erin yn y flwyddyn gynta', ac os ydw i'n gyflymach na hi!"

"Ti yn!" chwardda Erin.

Cari ac Erin a'u cyd-rwyfwyrFfynhonnell y llun, Llun cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Cari ac Erin (o'r chwith i'r dde, yn y canol) a'u cyd-rwyfwyr yn dathlu buddugoliaeth ym mhencampwriaeth British Universities and Colleges Sports - BUCS - ym mis Ebrill 2025

Does dim cystadleuaeth rhwng y ddwy, dim ond cefnogaeth a'r awydd i'r llall wneud yn dda. Maen nhw newydd orffen blwyddyn lwyddiannus o gyd-rwyfo a chyd-ennill gyda'i gilydd, eglura Erin.

"Y peth gorau ddigwyddodd, yn BUCS, o'dd fi a Caz wedi 'neud y lightweight quad. Ro'n i yn y ffrynt a Cari yn eistedd dwy sedd tu ôl i mi, a 'naethon ni ennill ac o'dd hwnna'n rili cŵl."

Ac mae eu rhieni gyda nhw bob cam o'r ffordd...

"Mae Mam a Dad wastad yn dod i watsho ni, ac maen nhw wastad yn dod â chacen i'w roi i'r sgwad! Mae e rili neis bod nhw mor gefnogol i ni.

Erin a Cari gyda'u rhieniFfynhonnell y llun, Llun cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Erin a Cari gyda'u rhieni Llŷr a Naomi, sydd wastad yn dod i gefnogi pob ras

"Mae penblwydd Mam blwyddyn nesa' yn 50, ond mae e'r un penwythnos â ras Women's Head of the River, sef un o rasys mwya'r flwyddyn. Ond mae hi'n deall, ac mae'n well ganddi hi bod ni'n rasio a gwneud rhywbeth y penwythnos canlynol.

"Bydd rhaid i ni roi anrheg enfawr iddi hi i ddweud sori!"

Mwynhau er y gwaith caled

Gyda chystadlaethau a regatas, mawr a bach, bron bob penwythnos, a'r holl hyfforddi sy'n rhaid ei wneud, mae'r merched wedi hen arfer â gorfod newid cynlluniau neu ddweud 'Na' i bethau. Ond, mae'r ddwy yn gwybod, os ydyn nhw am lwyddo, rhaid gweithio'n galed.

"Ni'n hyfforddi lot," eglura Cari, "rhyw ddau neu dri sesiwn y diwrnod bron pob dydd. 'Nes i ffeindio fe'n eitha anodd, yn enwedig yn nhymor cynta'r flwyddyn gynta; pob penwythnos, ni wastad ar y dŵr.

"Mae e'n rili intense. Mae pobl yn wastad yn meddwl ei fod e'n gamp lle chi jyst yn defnyddio breichiau chi, ond mae e'r coesau, breichiau, corff a'r cof; mae'n defnyddio'r rhan fwyaf o'r cyhyrau yn dy gorff di."

Ond â'r ddwy'n mwynhau'r gamp gymaint, dydyn nhw ddim yn meindio'n ormodol.

"Mae lot o sesiynau yn rili anodd," meddai Erin, "ond pan mae'n heulog tu fas ac mae'r afon yn rili fflat, mae fel bo' ti'n hedfan."

Erin a Cari yn dathluFfynhonnell y llun, Llun cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r holl waith caled werth o pan rydych chi'n ennill!

Ychwanegodd Cari: "Pan chi'n ennill, mae'n dda i gofio pa mor galed oedd e yn y gaeaf – ac os wyt ti eisiau cael amser da yn yr haf, rhaid parhau drwy'r gaeaf a'r tywyllwch!"

Ac mae dwyster yr hyfforddi nid yn unig yn dod â medalau, ond hefyd ymdeimlad o agosatrwydd rhwng aelodau'r tîm, meddai Erin:

"Achos mae e mor intense, ti'n gweld yr un bobl bob dydd, felly mae teimlad cryf o gymuned o fewn rhwyfo. Yn Birmingham roedd pump ohonon ni yn siarad Cymraeg, sydd mor hyfryd... ac yn handi hefyd!"

Dyfodol disglair ar y dŵr?

A hithau newydd gystadlu yn ei ras olaf gyda thîm Birmingham, a hynny yng Ngwlad Pwyl mewn pencampwriaeth Ewropeaidd i golegau ddiwedd mis Medi, mae gyrfa rhwyfo prifysgol Erin tu ôl iddi.

Mae hi newydd ddechrau gweithio fel athrawes yn Llundain, ac wedi ymuno â chlwb rhwyfo yno, meddai, ond mae hi am weld sut eith pethau gyda thîm newydd, gan ei bod yn awyddus i barhau i fwynhau'r gamp.

Gyda Cari newydd ddechrau ar ei hail flwyddyn yn astudio Economeg, mae ganddi o leiaf dwy flynedd ar ôl o hyfforddi gyda'i thîm yn Birmingham. Ac wedyn, pwy a ŵyr?

"Dwi ddim rili'n siŵr, a mae'n dibynnu ble fi'n bennu lan. Ond dwi'n credu mod i eisiau gwneud y mwyaf ohono fe yn y brifysgol, a gweld pa mor bell dwi'n gallu mynd. Dwi rili eisiau ennill Henley Women's. 'Naethon ni drio qualifyio eleni, ond methu, felly falle flwyddyn nesa'.

"'Na i gario 'mlaen tan dwi wedi gorffen ble dwi eisiau mynd..."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig