Cyngor Powys yn ystyried gwerthu tir yn sgil heriau ariannol

Arweinydd Cyngor Powys, y Cynghorydd Jake BerrimanFfynhonnell y llun, Ffermio S4C
Disgrifiad o’r llun,

Nod y cyngor yw sicrhau fod gan y stad "ddyfodol cynaliadwy", meddai'r arweinydd Jake Berriman

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Cyngor Sir Powys yn dweud y bydd yr awdurdod yn ystyried gwerthu tir yn y dyfodol er mwyn cael trefn ar eu sefyllfa ariannol.

Dywedodd y cynghorydd Jake Berriman wrth raglen Ffermio S4C, fod yn "rhaid i ni edrych ar ein hasedau i gyd... bydd yn rhaid i ni eu gwerthu er mwyn ateb gofynion sydd gan y cyngor".

Daw ei sylwadau ar ôl i ymgynghoriad cyhoeddus ar lunio polisi newydd ar gyfer stad cyngor Powys - y fwyaf yng Nghymru gyda 130 o ffermydd - ddod i ben ddydd Sul.

Yn y cyfamser, mae gwaith ymchwil newydd gan raglen Ffermio yn dangos fod nifer y ffermydd cyngor ar draws Cymru wedi gostwng 17% mewn 10 mlynedd.

'Rhaid i ni gael trefn ar ein cyllid'

Nod yr ymgynghoriad diweddar oedd canfod ffordd gynaliadwy o reoli stad y cyngor ar gyfer y dyfodol a chael barn pobl y sir ynglŷn â sut maen nhw yn dymuno i'r ffermydd cael eu rheoli.

"Be dwi'n ei ddweud ydi y bydd yn rhaid i ni edrych ar ein hasedau i gyd fel hen ysgolion, adeiladau cyngor a thir agored," meddai Mr Berriman.

"Mi fydda nhw yn cael eu gwerthu. Bydd yn rhaid i ni eu gwerthu er mwyn ateb y gofynion sydd gan y cyngor yn ei ystyr ehangach. Os ydyn ni eisiau parhau i adeiladu ysgolion, ffyrdd a chodi pontydd bydd rhaid i ni resymoli ein hasedau er mwyn cael trefn ar ein cyllid.

Gwadodd yn bendant mai diben y broses ymgynghori oedd llunio polisi i werthu ffermydd.

"Peidiwch ag anghofio bod y stad yn 10,000 o erwau a 'dan ni am sicrhau fod ganddi ddyfodol cynaliadwy. Mae hynny'n golygu gwneud pethau gwahanol yn y dyfodol o gymharu â'r hyn da ni wedi ei neud yn y gorffennol," ychwanegodd.

Phil a Heledd Dancer o Gemaes ger Machynlleth tu allan yn y cae.Ffynhonnell y llun, Ffermio S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Phil a Heledd Dancer sy'n ffermio ger Machynlleth yn poeni am ddyfodol ffermydd cyngor

Ond mae'r ffaith bod Cyngor Powys eisoes wedi gwerthu rhywfaint o dir eleni yn ogystal â'r ymgynghoriad wedi creu pryder i bobl o fewn y diwydiant amaeth am ddyfodol y ffermydd cyngor.

Yn eu plith mae Phil ac Heledd Dancer o Gemaes ger Machynlleth.

Maen nhw'n gweithio llawn amser a hanner ffordd drwy denantiaeth 12 mlynedd ar y fferm, ac yn pwysleisio pa mor amhrisiadwy ydi'r denantiaeth iddyn nhw.

"Dwi'n ffermwr cenhedlaeth gyntaf, ddim yn wreiddiol o deulu ffermio," meddai Phil.

"Hwn 'di'r unig ffordd i rywun fatha fi ddod i mewn yn olew o hawdd i ffermio a chael tŷ, adeiladau a thir efo'i gilydd."

Ychwanegodd Heledd ei bod hi a Phil yn gweithio swyddi llawn amser y tu hwnt i'r fferm hefyd.

"'Dan ni wedi buddsoddi yma. 'Dan ni wedi benthyg lot o arian er mwyn dechrau. 'Dan ni'n dau yn gweithio yn llawn amser oddi ar y fferm er mwyn cadw pethau i fynd.

"'Dan ni'n gweithio 24/7 – fel pob ffermwr wrth gwrs - 'dan ni wedi rhoi pob dim i mewn iddo fo."

Ond maen nhw'n cydnabod fod y misoedd diwethaf wedi creu ansicrwydd ar gyfer y dyfodol.

"'Dan ni hanner ffordd drwy'r denantiaeth, ac yn wreiddiol roedden ni fod i gael wyth mlynedd ond 'dan ni ddim yn siŵr pa ffordd fydd pethau'n mynd," ychwanegodd Phil.

"Mae'n rhoi ansicrwydd i ni a 'dan ni ddim eisiau buddsoddi gormod yn y lle rhag ofn."

'Pwnc hynod wleidyddol'

Mae'r Cynghorydd Berriman, fodd bynnag, o'r farn y bydd yr ymgynghoriad yn rhoi sicrwydd i denantiaid.

"Roedd tenantiaid yn hynod o bryderus cyn yr ymgynghoriad. Rwyf wedi gwerthu llai o ffermydd na'r weinyddiaeth flaenorol - ac mae'r pwnc wedi datblygu i fod yn un hynod o wleidyddol wedi sawl cyfarfod cyhoeddus.

"Nawr mae 'na ymgynghoriad llawn a thryloyw a bydd cyfle i bawb rhoi eu barn," meddai.

Gostwng yn raddol wnaeth nifer y ffermydd cyngor ar draws Cymru ers deng mlynedd, yn ôl cais i bob awdurdod lleol o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth gan Ffermio, o 482 yn 2015 i 400 yn 2025.

Dros y cyfnod yna ym Mhowys mae'r nifer wedi gostwng o 146 i 130, ym Môn o 92 i 78 ac yn Ninbych o 27 i 12.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.