'Cath fawr' y maes carafannau
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o eisteddfodwyr wedi adrodd gweld cath gymharol fawr ar y maes carafannau.
Yn siarad ar raglen Galwad Cynnar ar BBC Radio Cymru dywedodd Non ap Gwyn o Ynys Môn: "Oedden ni yn eistedd yn cael barbiciw tu allan i'r garafan, a dyma ffrind yn dweud - 'sbia dyma hi!'
"A gweld y gath yma tua 50 metr i ffwrdd. Roedd dau arall o'r criw wedi dweud fod y gath yma yn fwy na'r cyffredin. Mae'n siwr bod hi'n droedfedd a hanner o uchder a falle tair troedfedd o hyd.
"Ma' nhw mas yna"
"Y peth mwyaf diffiniol yw ei chlustiau 'pointy' hi. Mae'n rhywbeth gwahanol ac yn fwy na chath arferol". Chafon ni ddim ofn o gwbl, roedd y plant yn chwarae wrth ymyl, a doedd e ddim yn gwneud unrhyw fath o sylw ohonon ni."
Fe ddywedodd Frank Olding, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod bod nifer o adroddiadau wedi bod yn yr ardal dros y blynyddoedd am gathod mawr.
" Mae nhw mas yna" meddai. "Pob hyn a hyn mae pobl yn adrodd eu bod yn gweld nhw. Mae beth ydyn nhw yn gwmws yn gwestiwn ynde."