Galw am fwy o bwerau i'r Ombwdsmon ymchwilio i ysbytai
- Cyhoeddwyd
Mae gwraig weddw oedd wedi cwyno am y gofal gafodd ei gŵr mewn ysbyty preifat wedi croesawu galwadau i ganiatáu i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus edrych ar achosion o'r fath.
Fe gymerodd hi bum mlynedd i gŵyn Ruth Lewis gael ei ddatrys.
Mae achos Peter Lewis o Lanelli wedi ei ddefnyddio gan yr Ombwdsmon, Nick Bennett i danlinellu'r angen am ddeddfwriaeth newydd er mwyn cryfhau hawliau cleifion sy'n derbyn triniaeth breifat yng Nghymru.
Dyw'r Ombwdsmon ddim yn gallu ymchwilio i gwynion gan gleifion ysbytai a chlinigau preifat oni bai bod y driniaeth honno wedi ei ariannu gan GIG.
Ond y gobaith yw y bydd mesur sy'n edrych ar bwerau'r Ombwdsmon yn caniatáu i hyn ddigwydd, hyd yn oed os yw'r cleifion wedi talu am driniaeth eu hunain.
Stori Peter Lewis
Aeth Mr Lewis i Ysbyty Spire yng Nghaerdydd er mwyn cael llawdriniaeth ar ei ben-glin pan oedd yn 83 oed yn 2010.
Roedd ei arennau wedi methu ac roedd ganddo gymhlethdodau iechyd eraill.
Ar ôl gadael yr ysbyty fe waethygodd ei gyflwr ac ar ôl mynd i Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli cafodd niwmonia. Bu farw ym mis Ionawr 2011.
Mae ei weddw yn teimlo ei fod wedi cael gadael Ysbyty Spire yn rhy fuan.
Mae Ms Lewis dweud hefyd nad oedd yr ysbyty wedi cadw golwg ar ei gyflwr ac nad oedd wedi cael gofal digonol tra roedd yn yr ysbyty.
Ar hyn o bryd mae cwynion ynglŷn â'r sector preifat yn cael eu cyfeirio at y darparwyr eu hunain ar gyfer ymchwiliad mewnol.
Os nad yw'r claf neu'r teulu yn hapus gyda'r casgliadau mae'n bosib i'r gŵyn gael ei adolygu gan uwch rheolwr yn yr ysbyty neu ymgynghorwr arbenigol.
Dyma yw'r broses yn ôl canllawiau cwyno Cymdeithas Sefydliadau Gofal Iechyd Annibynnol (ISCAS).
Y cam olaf yw bod y gŵyn yn cael ei chlywed gan Wasanaeth Dyfarnu Annibynnol ac mae'r Gymdeithas yn dweud bod hyn yn debyg i broses yr Ombwdsmon.
Adroddiad annibynnol
Fe ofynnodd Ms Lewis am ddyfarnwr annibynnol yn 2014 ond wnaeth y broses gan Sally Williams ddim dechrau tan y flwyddyn wedyn.
Yn ei hadroddiad, mae Ms Williams yn cefnogi dau o gwynion Ms Lewis yn llawn ac un yn rhannol.
Cafodd y gŵyn ynglŷn â'r gofal gafodd Mr Lewis ei gefnogi yn rhannol.
Dywedodd Ms Williams bod agweddau o ofal Mr Lewis yn Spire yn "is na'r safon fyddai rhywun yn disgwyl".
Ond wnaeth yr adroddiad ddim darganfod unrhyw esgeulustod yn y gofal gafodd Mr Lewis.
'Taliad o ewyllys da'
Cefnogwyd cwyn Ms Lewis ynglŷn â'r "amwysedd ac ansicrwydd" am bwy oedd yn gyfrifol am ofal ei gŵr yn ysbyty Spire a'i chŵyn ynglŷn â delio gyda'i phryderon.
Dywedodd Ms Williams: "Mae'r effaith arnoch chi a'ch teulu o ran y gofid a'r dryswch wedi bod yn enfawr ac rydych chi wedi mynegi nad ydych chi wedi gallu galaru yn iawn."
Mae Spire wedi cael gorchymyn i wneud "taliad o ewyllys da" o £2,250 i Ms Lewis.
Dywedodd Ms Lewis: "Mae wedi bod yn rhwystredig iawn ac rydw i wedi gorfod defnyddio fy holl nerth i barhau i ymladd.
"Ond roedd hyn yn rhywbeth roedd yn rhaid i mi wneud oherwydd roeddwn yn gwybod nad oedd pethau fel y dylen nhw fod.
"Fydden i byth wedi gallu bod yn dawel fy meddwl oni bai fy mod i wedi cyrraedd y pwynt yma."
Pwerau'r Ombwdsmon
Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, Nick Bennett yn gobeithio y bydd y mesur drafft sydd yn edrych ar ei rôl yn cael ei drafod yn y Cynulliad yn yr hydref.
"Dwi'n gobeithio cael mwy o rym oherwydd ar hyn o bryd 'dwi'n gallu ymchwilio i gwynion am y gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ond dim ond os ydyn nhw wedi cael eu comisiynu gan y GIG yn y sector preifat," meddai.
"Os mai unigolyn sy'n comisiynu, does gen i ddim grym o gwbl.
"Mae achos Ruth Lewis wedi fy ysbrydoli er mwyn rhoi tystiolaeth gerbron y Cynulliad i sicrhau ein bod yn gweld newid."
Mae Mr Bennett yn credu bod 5% o'r achosion y mae'n delio gydag yn ymwneud mewn rhyw ffordd gyda'r sector preifat, sydd yn tua 35-40 o gleifion.
Dywedodd Ysbyty Spire eu bod yn darparu gofal o'r safon uchaf yn "flaenoriaeth" iddyn nhw ac yn fater maen nhw'n cymryd "o ddifri".
"Rydyn ni'n cydnabod bod y pum mlynedd a hanner diwethaf wedi bod yn rhai anodd i Ms Lewis, ei theulu a hefyd y staff meddygol wnaeth drin Mr Lewis," meddai llefarydd.
"Rydyn ni'n gobeithio bod casgliadau'r dyfarnwr yn dod a diweddglo i bawb."
Ychwanegodd y byddai'r ysbyty yn ysgrifennu at Ms Lewis er mwyn rhoi gwybod iddi sut mae'r ysbyty yn bwriadu gweithredu ar yr argymhellion yn yr adroddiad.
Dywedodd cyfarwyddwr ISCAS, Sally Taber: "Mae ISCAS wedi dysgu o'r gwersi o'r dyfarniad yma a byddwn yn eu pasio 'mlaen i'n holl ysbytai."
Ar ran Llywodraeth Cymru dywedodd llefarydd: "Unwaith y bydd y mesur drafft yn cael sylw eto gan y pwyllgor ariannol, rydym yn edrych ymlaen i drafod y mater ymhellach."