Ymchwiliad mewn dwy ardal wedi i gannoedd o bysgod farw

  • Cyhoeddwyd
PysgodFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae ymchwiliad wedi cychwyn ar ôl i lygredd ladd mwy 'na 100 o bysgod yn afon Cefni yn Ynys Môn.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud eu bod wedi cymryd profion o'r dŵr er mwyn cael gwybod o le y daeth y llygredd.

Mae swyddogion hefyd yn cynnal profion ar y pysgod i gael gwybod sut wnaethon nhw farw.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y pysgod ym Mhowys

Mae dros bum cant o bysgod hefyd wedi marw ym Mhowys ger Llansanffraid-ym-Mechain ac fe fydd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn profi'r dŵr yno ac yn ymchwilio.

Dywed y corff bod y dŵr "i weld yn glir" yn yr afonydd ym Mhowys ac Ynys Môn.