Gwyddonwyr yn 'creu eli i wella clwyfau diabetes'
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor yn gweithio ar greu hylif gel allai fod o gymorth wrth wella clwyfau sydd yn deillio o ddiabetes.
I gleifion sydd gyda'r afiechyd mae clwyfau'n gallu cymryd mwy o amser i wella, neu waethygu'n gyflymach, oherwydd lefelau glwcos uchel a chylchrediad gwaed gwael.
Mae hyd yn oed yn gallu arwain at orfod torri'r rhan o'r corff sydd wedi'i effeithio i ffwrdd.
Ond yn ôl gwyddonwyr fe allai hydrogel polymer newydd sydd yn cael ei ddatblygu fod o gymorth mawr wrth drin anafiadau o'r fath.
Dywedodd Dr Hongyun Tai o'r Ysgol Gemeg ei fod yn "brosiect cyffrous iawn".
Afiechyd cyffredin
Mae tua 280 miliwn o bobl yn dioddef o diabetes ar draws y byd, gyda thua 25% ohonynt yn datblygu briwiau sydd yn gysylltiedig â'r afiechyd.
Yn yr achosion mwyaf difrifol mae hynny'n golygu gorfod torri rhannau o'r corff, fel bysedd traed, i ffwrdd.
Ar hyn o bryd mae'r geliau sydd yn cael eu defnyddio i drin clwyfau yn glynu'u hunain i feinwe'r corff, meddai Dr Tai, ac felly mae'n gallu achosi problemau unwaith y mae'r clwyf wedi gwella a'i bod yn bryd ei dynnu oddi yno.
"Pan 'dych chi'n ei dynnu oddi yno rydych chi'n tarfu ar y clwyf," ychwanegodd: "Fe fydd hyn yn creu niwed, felly dyw e ddim yn helpu'r clwyf i wella ei hun.
"Ein bwriad ni yw datblygu system hydrogel fydd yn gallu dirywio dros gyfnod o amser tra'i fod e yno [yn gwella'r clwyf]."
'Gwella safon bywyd'
Mae'r prosiect yn un o'r cannoedd ym mhrifysgolion Cymru sydd yn elwa o gronfa KESS II gwerth £26m o'r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd yr Athro Dean Williams o Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor, un o bartneriaid y prosiect, bod ganddyn nhw ddiddordeb mawr mewn gwneud ymchwil allai fod o gymorth i'r rheiny sydd yn dioddef o'r afiechyd.
"Fe allai afiechyd troed diabetig fod yn gyflwr difrifol iawn," medddai. "Wrth i niferoedd cleifion diabetes gynyddu, mae mwy o bobl yn cael eu heffeithio ganddo.
"Mae briwiau traed cleifion â diabetes yn gallu cael effaith sylweddol ar eu safon byw, nid yn unig yn y tymor byr; gall hynny gynnwys ei chael hi'n anodd symud, methu â gweithio, a cholli rhan o'r corff."
Ychwanegodd mai problemau yn ymwneud â'r droed yw'r prif reswm y mae pobl â diabetes yn gorfod mynd i'r ysbyty, ac y gallai datblygu math newydd o driniaeth wneud gwahaniaeth mawr i'w safon bywyd.