Brexit i ysgogi 'uchelgais newydd' i amaethwyr
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd undeb amaeth wedi dweud y dylai canlyniad pleidlais Brexit fod yn ysgogi "uchelgais newydd ag hyderus" ymysg ffermwyr.
Dywedodd Meurig Raymond, llywydd undeb yr NFU, y gallai ffermwyr Prydain fod yn gystadleuol ar raddfa fyd-eang a chwarae rhan hanfodol a chyhoeddus.
Mae'r undeb wedi lansio ymgynghoriad ymysg ei haelodau dros y mis nesaf er mwyn trafod natur y polisi amaeth wedi Brexit.
Mae'r Canghellor Phillip Hammond wedi dweud y bydd amaethwyr yn parhau i dderbyn yr un lefel o gymhorthdal ag sydd yn dod gan yr Undeb Ewropeaidd tan o leiaf 2020.
Dywedodd Mr Raymond: "Mae'r bleidlais i adael yr UE yn golygu fod diogelu cyflenwad bwyd yn gorfod ysgogi uchelgais newydd ag hyderus ymysg ffermwyr y DU a chynhyrchwyr bwyd.
"Mae hwn yn gyfle hanesyddol y mae'r NFU yn benderfynol o'i gymryd."
Dywedodd fod ffermio'n werth £108m i economi Prydain, ac mae hefyd yn chwarae rhan ganolog mewn meysydd fel polisi cyhoeddus fel yr amgylchedd, ynni adnewyddol, addysg, iechyd a maeth.
'Adeiladu pontydd'
Ychwanegodd: "Mae Brexit hefyd yn ymwneud ag adeiladu pontydd, ag adeiladu dylanwad y diwydiant.
"Bwriad yr NFU, unwaith bydd ein haelodau wedi trafod, yw i ddarparu llais cryf ag unedig i'r diwydiant bwyd ag amaeth, er mwyn sicrhau fod amaeth yn cael ei weld yn bwysig o ran gwleidyddiaeth a strategaeth mewn trafodaethau masnach yn y dyfodol."
Ym mis Gorffennaf dywedodd Ysgrifennydd Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, fod Brexit yn gyfle i ddatblygu agwedd 'Gwnaethpwyd yng Nghymru' i amaeth, sydd yn faes datganoledig.
O dan bolisi presennol CAP yr Undeb Ewropeaidd, mae Cymru'n derbyn oddeutu £250m y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i amaethwyr, yn ogystal â dros £500m rhwng 2014 a 2020 i weinyddu cynllun datblygu cefn gwlad.
Wrth siarad yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd eleni, dywedodd Ms Griffiths ei bod yn disgwyl i ryw fath o gymorthdaliadau i barhau, ond roedd hi'n ymwybodol fod llawer o ffermwyr wedi pleidleisio o blaid Brexit o achos gwaith papur y drefn bresennol.
Ddydd Llun fe fydd yn cynnal cyfarfod gyda swyddogion o Undeb Amaethwyr Cymru i drafod pwysigrwydd amaeth i'r economi, ag effaith TB ar wartheg.