Rhybuddio myfyrwyr i gael brech llid yr ymennydd
- Cyhoeddwyd
Mae sefydliad iechyd wedi rhybuddio pobl ifanc sydd ar eu ffordd i brifysgol ynglŷn â pheryglon llid yr ymennydd.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei bod hi'n bwysig i bobl 17 ac 18 oed gael eu brechu rhag yr afiechyd.
Yn ôl arbenigwyr meddygol mae risg uwch o ddal y clefyd yn ystod yr wythnosau cyntaf yn y brifysgol, pan mae unigolion yn rhannu gofod byw â llawer o bobl newydd.
Dim ond traean o bobl ifanc gafodd eu brechu llynedd fodd bynnag, er bod modd ei gael ar y gwasanaeth iechyd.
Mae pob person ifanc yng Nghymru gafodd eu geni rhwng 1 Medi 1996 a 31 Awst 1999 yn gymwys ar gyfer y pigiad brechu MenACWY os nad ydyn nhw eisoes wedi'i gael.
'Dan fygythiad'
"Mae achosion o lid yr ymennydd a septicaemia o ganlyniad i afiechyd Men W wedi bod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn yng Nghymru a Lloegr, o 22 achos gafodd ei gadarnhau yn 2009 i tua 200 llynedd," meddai Leony Davies, nyrs arbenigol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
"Llynedd fodd bynnag dim ond traen o bobl 17-18 oed gafodd y frech yng Nghymru. Mae'n golygu bod llawer o bobl ifanc dan fygythiad o'r afiechyd.
"Bydden i'n annog pob person 17-18 oed i gael eu brechu cyn gynted â phosib. Mae'r frech yn arbennig o bwysig i fyfyrwyr sydd yn mynd i'r brifysgol am y tro cyntaf gan ein bod ni'n gwybod fod cymysgu â phobl newydd a byw mewn llefydd cyfyng fel neuaddau prifysgolion yn cynyddu'r risg."
Mae hyd at un o bob pedwar person rhwng 15-19 oed yn cario bacteria meningococaidd sydd yn gallu achosi llid yr ymennydd, ac mae modd gwneud hynny heb ddangos unrhyw arwyddion na symptomau.
Mae llid yr ymennydd bacteriol yn lladd mewn un o bob deg achos, ac mae traean o'r rheiny sydd yn goroesi yn cael eu gadael ag anableddau sydd yn newid eu bywydau gan gynnwys niwed i'r ymennydd, colli golwg neu glyw, creithio neu golli rhannau o'r corff.