Bwyd blasus y Cymry

  • Cyhoeddwyd
abergavenny
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gŵyl Fwyd y Fenni ymhlith y digwyddiadau sy'n rhoi sylw i gynnyrch cynhenid Cymreig

Mae sawl gŵyl fwyd lwyddiannus wedi eu sefydlu mewn sawl ardal o Gymru erbyn hyn gan gynnwys Caernarfon, dolen allanol, Yr Wyddgrug, dolen allanol, Aberdaugleddau, dolen allanol a'r Fenni., dolen allanol

Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd trosiant y sector bwyd a ffermio yn £6.1 biliwn yn 2015, 5 y cant yn uwch na'r flwyddyn flaenorol, "gan ddangos arwyddion positif bod y sector yn hyderus ac yn ehangu".

Ar 20 Awst bydd Gŵyl Bwyd Môr Menai, dolen allanol yn cael ei chynnal ym Mhorthaethwy. Mae'r digwyddiadau yma yn rhoi sylw i gynnyrch cwmnïau bychain. Ond pa mor anodd ydy hi i sefydlu cwmni bwyd ac i farchnata y diodydd a'r bwydydd blasus sy'n cael eu cynhyrchu yma yng Nghymru?

Hobi'n troi'n fusnes

'Chydig o hwyl oedd y broses o gynhyrchu seidr i Gethin ap Dafydd cyn iddo sefydlu cwmni 'Gethin's Cyders' yn Sir Benfro.

"Dechreuodd y cyfan fel hobi," meddai, "o'n i'n gwneud bach o seidr a fe ddwedodd y teulu a ffrindiau 'mae hwn yn dda, dyle bo ti'n ei werthu e'. Mewn dipyn dechreuodd gwyliau gwahanol a thafarndai holi os allen nhw brynu chydig o'r seidr.

"Dwi'n dal i weithio yn llawn amser yn Ysbyty Llwynhelyg, a dwi'n gwneud y seidr gyda fy ngwraig, gyda hi yn gwneud y deliveries ac ati. Felly mae hwn wedi troi mewn i fusnes, ond y seidr ei hun sydd wedi troi mewn i fusnes yn hytrach na ni.

"Mae wedi tyfu yn eitha organig i ddweud y gwir, ac rydyn ni'n mwynhau'r ffaith bod pobl yn mwynhau y seidr a bod cymaint o alw amdano.

"Bob blwyddyn ar ôl gwerthu'r seidr ry'n ni'n buddsoddi'r elw i brynu offer newydd sy'n ei gwneud hi'n haws i ni gynhyrchu'r seidr a gwella'r cynnyrch.

"Mae'r busnesau bach rownd Sir Benfro wedi bod yn gefnogol, ac maen nhw'n deall bod cynhyrchu seidr yn rhywbeth tymhorol," ychwanegodd Gethin.

"Mae ein seidr ni yn gynnyrch lleol sy'n cael ei werthu yn lleol, ac mae'n anodd dal lan 'da'r demand ar hyn o bryd. Mae digon o sgôp i ni ehangu i Sir Gâr a Cheredigion, ac yna y gobaith yw y galla i ei wneud e fel swydd achos mae'n rhywbeth dwi'n wir fwynhau ei wneud."

Disgrifiad o’r llun,

Gethin ap Dafydd gyda'i seidr

Cefnogaeth i fentro

Cynhyrchu caws yw arbenigedd Elin Wyn Jones a'i theulu ar Ynys Môn. Mae 'Caws Rhyd y Delyn' yn prysur dod yn enw cyfarwydd.

"Y peth pwysig wrth ddechrau cwmni cynnyrch bwyd ydy cael syniad sy'n gweithio, ac yna gweithio allan os oes yna unrhyw fath o gyllid ar gael fel cymorth," meddai Elin, sydd hefyd yn rhedeg deli yn y brifddinas.

"'Da ni wedi bod yn lwcus yng Nghymru achos mae 'na grantiau ar gael, yn enwedig i ffermio arallgyfeirio.

"Roedden ni hefyd yn ffodus i fod yn agos i ganolfan technoleg fwyd yn Llangefni, ac roedden nhw'n cynnig cyrsia' fel gwneud hufen iâ, gwneud caws a dysgu pobl i fod yn gigyddion. Felly wnaethon ni fanteisio ar y cwrs i wneud caws ac naethon nhw helpu ni ddatblygu ein caws meddal.

"Cafon ni grant PMG (Product Marketing Grant), ac ar y pryd roedd o'n cynnig 50% y gost o sefydlu'r busnes. Mae rhai pobl yn cael eu dychryn rhag dechrau busnes gan bod y broses o wneud cais am grantiau yn gallu bod mor gymhleth a chymaint o waith papur ynghlwm â hynny.

"Doedd dim grantiau addas pan wnes i agor siop Canna Deli yng Nghaerdydd, ond os 'da chi eisiau arallgyfeirio a chynhyrchu rhywbeth eich hunain mae 'na grantiau ar gael."

O 5 litr i 25,000 litr

Mae'r diwydiant seidr wedi tyfu yn aruthrol dros y blynyddoedd diwetha', ac mae profiad Gethin ap Dafydd yn brawf o hynny.

"Pan wnes i ddechre' gwneud seidr tua 13 mlynedd yn ôl, fe wnes i gynhyrchu galwyn, sef tua pum litr," meddai. "Wnes i 20 litr y flwyddyn ganlynol a 100 litr y flwyddyn wedi honno. Ond nawr ry'n ni'n gwneud tua 7,000 o litrau mewn blwyddyn. Dros y Gaeaf hyn ry'n ni'n gobeithio tyfu y cwmni cryn dipyn gan gynhyrchu 25,000 litr o seidr.

"Bydd yr afalau yn aeddfedu a dechrau cwympo diwedd mis Medi, ac wedyn bydden ni'n dechrau gwasgu mewn rhyw fis. Fel arfer dwi'n cymryd rhyw hanner dydd bant o'r gwaith ar ddydd Gwener i gasglu afalau rownd Sir Benfro, a mynd i berllanau eraill yn Sir Fynwy hefyd i gasglu afalau."

Ffenest siop

Mae'r gwyliau bwyd sy'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru yn bwysig iawn i gwmnïau bwyd bychain yn ôl Elin: "Y gwyliau bwyd a'r farchnad ffermwyr leol ydi dy ffenest siop cynta os 'da chi'n cynhrychu bwyd.

"'Da ni wedi bod yn mynd i'r sioe yn Llanelwedd bob blwyddyn ac mae wedi bod o fendith mawr i ni. Mae sioeau bwyd 'di mynd mor fawr yn ddiweddar, ac mae 'na pobl yn teithio o bell i fod yno.

"Fel arfer dydi cost y gwyliau fwyd ddim yn afresymol felly mae'n rhoi cyfle i rywun newydd roi siawns cynta arni. Mae'n dda i ni fel cynhyrchwyr gael cyfarfod a siarad efo cwsmeriaid, a 'da ni'n mwynhau trafod gyda'r cwsmeriaid a dweud be 'di hanes y cynnyrch - dyna rywbeth sydd ddim ar gael yn y siopau."

Mae Gethin hefyd yn gweld rhinweddau'r gwyliau bwyd: "Achos bo' ni'n gwerthu yn uniongyrchol i'r cwsmeriaid mae mwy o elw yn dod i ni, ac o ganlyniad gallwn ni fuddsoddi mwy o arian i'r busnes.

"Mae hefyd yn bwysig o ran hysbysebu yr enw hefyd, achos mae'n syndod pwy sy'n dod i'r gwyliau 'ma - perchnogion tafarndai a chaffis ac yn y blaen."

Tra bod Gethin yn edrych i ehangu 'Gethin's Cyders' mae Elin yn fodlon i gadw pethau fel y maen nhw wrth gynhyrchu 'Caws Rhyd y Delyn'.

"'Da ni wedi cychwyn fel cwmni bach, a 'da ni'n bwriadu aros yn fach, dyna sy'n gwneud ein cynnyrch ni'n be' ydi o - wedi ei wneud mewn batches bach gyda llaw," meddai.

"'Tasen ni'n cynhyrchu llawer mwy mi fuasen ni'n colli'r elfen artisan hand made. Mi fedrwn ni reoli safon yn lot haws o'i wneud ar raddfa fach."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn llwyddiant mawr yn ddiweddar