Nathan Gill yn gwadu honiadau twyll
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru yn deall fod ymchwiliad yn cael ei chynnal i honiadau o dwyll yn erbyn Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP, Nathan Gill.
Mae'r honiadau'n ymwneud â'r defnydd honedig o arian Senedd Ewrop ar gyfer anghenion pleidiau gwleidyddol, fel ymgyrchoedd etholiadol.
Ond mae Mr Gill wedi mynnu nad yw wedi gwneud unrhyw beth o'i le a bod y cyhuddiadau yn rhan o ymgyrch i bardduo'i enw da.
Fe gafodd y mater ei drosglwyddo i ddwylo Heddlu Gogledd Cymru ar ôl cael ei adolygu gan Swyddfa Ymchwiliadau Twyll Cenedlaethol.
Ond maen nhw nawr wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n ymchwilio i'r mater ymhellach, gan bod yr honiadau bellach yn cael eu hadolygu gan swyddfa gwrth-dwyll yr Undeb Ewropeaidd, OLAF.
Dywedodd llefarydd ar ran UKIP: "Mae'r honiadau yma'n newydd i UKIP ac i Mr Gill.
"Dyw'r heddlu heb siarad gydag o. Mae'n amhosib gwneud sylw pan nad yw'r ffeithiau'n wybyddus."
'Milain a di-sail'
"Doed dim amheuaeth gen i bod yr honiadau hyn - sydd yn hollol ffug - wedi cael eu gwneud fel rhan o strategaeth i niweidio fy enw da," meddai Mr Gill ddydd Gwener.
"Rydw i'n ffyddiog y bydd y rheiny sydd yn ceisio gwneud niwed i mi'n fwriadol yn wynebu'r cyhuddiadau priodol.
"Rydw i'n ei gweld hi'n hollol anghredadwy bod yr ymgyrch milain a di-sail yma sydd yn parhau yn fy erbyn yn cael ei weld fel blaenoriaeth i rai."
Mynnodd Mr Gill, gafodd ei ethol hefyd fel Aelod Cynulliad eleni, ei fod yn "llwyr ymwybodol" o bwy oedd y tu ôl i'r honiadau.
Hamilton yn ymateb
Wrth ymateb ddydd Iau fe ddywedodd arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton: "Allwn ni ddim gwybod ar hyn o bryd a oes unrhyw wirionedd i'r honiadau.
"Y ffordd hawsaf i Nathan Gill roi taw ar y dyfalu yw cyhoeddi holl fanylion ei gyflog a cheisiadau treuliau fel Aelod Seneddol Ewropeaidd ers mis Mai 2014, gyda'r holl ddogfennau cynorthwyol.
"Mae ceisiadau treuliau holl Aelodau Cynulliad yn cael eu cyhoeddi'n llawn pan maen nhw'n cael eu gwneud.
"Arian y trethdalwyr yw hwn. Mae gennym ni hawl i wybod sut mae'n cael ei wario."