Gogoniant arfordir Cymru
- Cyhoeddwyd
Ydych chi'n chwilio am rhywbeth i'w wneud cyn i wyliau'r haf ddod i ben? Beth am ymweld ag arfordir cyfoethog Cymru? Hyd yn oed os nad ydych chi'n mwynhau nofio, pysgota neu godi cestyll tywod mae 'na ddigon o weithgareddau amrywiol i'ch cadw'n ddiddig.
Cerith Rhys Jones o elusen WWF Cymru sy'n rhannu ei gyngor gyda Cymru Fyw:
1. Gweld y dolffiniaid ym Mae Ceredigion
Heidiwch i Gei Newydd a pheidiwch anghofio'r sbeindrych! Mae 'na deithiau cwch ar gael hefyd i chi gael cyfle i weld y dolffiniaid ac ambell i lamhidydd (porpoise). Mae gan yr RSPCA gyngor i chi sut i fwynhau'r bywyd gwyllt mewn modd diogel a chyfrifol. , dolen allanol
2. Chwilio am bara lawr ar draethau Sir Benfro
Mae traeth Freshwater West yn Sir Benfro yn adnabyddus fel lleoliad un o ffilmiau Harry Potter ac am fod yn lecyn da i syrffio. Ond mae'n le da i chi hefyd fynd i chwilio am wymon ac i chi wneud eich bara lawr eich hunain. Blasus! , dolen allanol
3. Cuddio yn nhwyni tywod Merthyr Mawr
Mae twyni tywod Merthyr Mawr i'w gweld rhwng traethau Aberogwr a Phorthcawl ym Mro Morgannwg. Rhain yw'r twyni tywod ail uchaf yn Ewrop ac mae'n Safle o Ddiddorddeb Gwyddonol Arbennig (SSSI). Cafodd golygfeydd o ffilm enwog 'Lawrence of Arabia' eu ffilmio yma yn y 60au cynnar. Wyddoch chi hefyd bod y twyni yn cael eu gweld hefyd fel amddiffynfa rhag llifogydd?
4. Gwneud halen ar Ynys Môn
Ydych chi erioed wedi dyfalu sut mae halen o'r môr yn cyrraedd y bwrdd bwyd? Mae cwmni Halen Môn yn egluro'r broses i ymwelwyr.
5. Cadw'r traethau yn lân
Mae 'na ymgyrch arbennig fis nesa' ar hyd a lled arfordir Prydain i lanhau'r traethau. Ond mae angen cadw'r traethau ar eu gorau bob mis o'r flwyddyn. Beth am wirfoddoli i gadw'ch traeth lleol yn lân a diogelu'r bywyd gwyllt? Mae gan elusen Cadwch Gymru'n Daclus gyngor i chi sut i fynd ati. , dolen allanol
6. Chwilio am ffosiliau ym Mhenarth
Mae 'na gyfoeth o ffosiliau ym Mhenarth, dolen allanol. Mae'r ardal wedi ei dynodi yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Ewch am dro ac mae'n siŵr y dewch chi ar draws rhywbeth diddorol.
7. Cerdded Llwybr yr Arfordir
870 o filltiroedd! Dyna yw hyd Llwybr Arfordir Cymru, dolen allanol. Gallwch chi weld rhai o ryfeddodau mwyaf Cymru a golygfeydd bendigedig bron iawn rownd pob cornel.
8. Gweld cynefin y Pâl
Mae Ynys Sgomer ger arfordir Sir Benfro yn warchodfa natur naturiol ac yn un o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yr Undeb Ewropeaidd. Rhwng Sgomer ac Ynys Sgogwm gerllaw mae yna tua 10,000 o barau o balod - ffigwr sy'n dal i dyfu. Mae yna deithiau cwch yno'n rheolaidd o Martin's Haven tan fis Hydref.
9. ...a llawer mwy!
Yn ogystâl a phalod, mae pob math o rywogaethau i'w gweld ar yr arfordir gan gynnwys gwylog (guillemots) a gweilch y penwaig (razorbills) ). Os ewch chi i Ynys Lawd ger Caergybi fydd dim angen sbeindrych arnoch chi i weld y gwylog. Mae'n bosib hefyd y dewch chi ar draws gloÿnnod byw prin.
10. Pryd blasus o sglodion... a physgodyn
Be' well i orffen diwrnod o antur a chwilota ar yr arfordir na pryd o sglodion a physgodyn wedi ei ddal yn lleol? Trwy ddewis y pysgodyn iawn i'w fwyta gallwn gadw'n moroedd yn iach a sicrhau bod y creaduriaid sy'n byw ynddyn nhw yn ffynnu. Ry'n ni i gyd yn dibynnu ar ein moroedd, nid yn unig am fwyd, ond hefyd am hamdden a swyddi. Cymerwch olwg ar ganllawiau prynu pysgod WWF, dolen allanol.
Rydyn ni mor lwcus bod gymaint o'r môr o'n cwmpas yng Nghymru. Mae'r moroedd yn rhoi hwb i'n bywyd gwyllt bendigedig ac mae'r cynefinoedd o'u cwmpas yn anhygoel.