Beirniadu HSBC am gau canghennau yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Mae banc yr HSBC wedi cael ei feirniadu ar ôl cyhoeddi y bydd yn cau dwy gangen yn Sir y Fflint yn ddiweddarach eleni.
Bydd y gangen yn Ewlo yn cau ar 11 Tachwedd a'r un yng Nghaergwrle ar 9 Rhagfyr.
Mae AC Alun a Glannau Dyfrdwy, Carl Sargeant wedi ysgrifennu at HSBC, a dywedodd bod y banciau yn chwarae "rôl bwysig yn eu cymunedau, a bod ganddynt [HSBC] gyfrifoldeb tuag atynt".
Mae HSBC wedi rhoi'r bai ar y cynnydd mewn bancio ar y we a dros y ffôn am y gostyngiad mewn pobl sy'n defnyddio canghennau.