Cwtogi cymhorthdal cynllun creu swyddi Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun creu swyddi i weithwyr ifanc sy'n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru wedi haneru'r gefnogaeth ariannol yr oedd yn ei gynnig i gwmnïau.
Roedd cynllun Twf Swyddi Cymru'n arfer cynnig cymhorthdal o 100% i gwmnïau er mwyn cyflogi pobl rhwng 16-24 oed, ond dywed gwefan y cynllun mai hanner hynny sy'n cael ei gynnig nawr.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig nad oedd "unrhyw synnwyr" mewn cwtogi'r cymhorthdal.
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru fod cwmnïau wedi dod yn fwy parod i gyflogi pobl ifanc, ac roedd gweinidogion yn gobeithio cyfuno'r cynllun gyda dau gynllun arall.
Cafodd y cynllun, sydd wedi'i ariannu'n rhanol gydag arian yr Undeb Ewropeaidd, ei lansio yn 2012 ac mae'n gymorth i gyflogwyr i dalu isafswm cyflog cenedlaethol gweithwyr.
Cafodd mwy o arian ar gyfer Twf Swyddi Cymru ei glustnodi yn 2015, gyda'r cynllun yn derbyn £25m gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop am dair blynedd.
'Gwarthus'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, Russell George ei fod yn "warthus" fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cwtogi'r cymorthdal i gwmnïau "heb fod gyda'r cwrteisi i adael i'r cyhoedd neu i aelodau etholedig wybod".
Ychwanegodd fod y cam yn "newid sylfaenol... fydd yn ddiamheuol yn effeithio ar y niferoedd fydd yn manteisio ar y cynllun".
Dywedodd: "Un funud mae'r economi mewn perygl dybryd o achos Brexit, nawr rydym yn clywed fod cwtogi o 50% ar gynllun creu swyddi yn angenrheidiol gan fod cwmnïau'n gwneud mor dda. Dyw e ddim yn gwneud synnwyr."
Dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru Jonathan Edwards: "Mae Twf Swyddi Cymru wedi ei andwyo gan ddiffygion o'r cychwyn - o gael ei ganslo, i ail-lansiad dryslyd i gyfraddau llwyddiant amheus.
"Mae'r datblygiad diweddaraf, wedi ei ryddhau gan Lafur yn eu dull arferol o swildod am sgriwtini, yn dangos eu hanallu pan mae'n dod i greu a gweithredu rhaglen effeithiol i daclo diweithdra a helpu busnesau Cymru i dyfu."
Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Cymru'n parhau i berfformio'n well na rhannau eraill y DU gyda'r "gyfradd gyflymaf o gyflogaeth a'r gostyngiad cyflymaf mewn diweithdra dros y 12 mis diwethaf".
"Wrth i'r economi newid yn y dull yma, gyda chwmnïau'n fwy bodlon i gyflogi pobl ifanc sy'n barod am waith, felly rydym wedi addasu Twf Swyddi Cymru i adlewyrchu hynny," ychwanegodd.
"Ein bwriad yw uno'r prif weithgareddau o'n prif gynlluniau cyflogaeth, yn cynnwys Twf Swyddi Cymru, ReAct a Hyfforddeiaethau, i un cynllun cefnogi fydd yn ateb gofynion y rhai hynny sydd angen cefnogaeth yn well - i gael, cadw a datblygu mewn gwaith."
Y cynllun
Gall cwmnïau neu gyrff gymryd rhan yn y cynllun os yw'r swydd sydd angen ei llenwi rhwng 25 a 40 awr yr wythnos, a hyd at o leiaf 6 mis o hyd.
Mae'n rhaid i'r swydd sy'n cael ei hariannu fod yn un newydd, yn hytrach nag un sydd wedi ei hysbysebu'n barod, neu i lenwi bwlch o achos salwch neu gyfnod mamolaeth.
Rhaid i'r ymgeiswyr fod yn ddi-waith, rhwng 16 a 24 oed ag yn byw yng Nghymru. Nid yw ymgeiswyr sydd wedi derbyn swydd drwy Twf Swyddi Cymru yn cael gwneud cais am yr eildro.
Dywed Llywodraeth Cymru fod 14,989 o swyddi wedi eu llenwi o dan y cynllun am y cyfnod cyntaf rhwng 2012 ac Ebrill 2015. Ers hynny mae 1,311 o swyddi wedi cael eu llenwi yn ystod cyfnod y cynllun presenol rhwng Medi 2015 a 10 Mehefin eleni.