Llywodraeth Cymru yn amddiffyn polisi diciâu

  • Cyhoeddwyd
Moch daearFfynhonnell y llun, PA

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn dilyn y newyddion fod Llywodraeth San Steffan wedi caniatau difa moch daear mewn rhagor o ardaloedd yn Lloegr mewn ymgais i reoli'r diciâu, neu TB, mewn gwartheg.

Bydd moch daear yn cael eu difa mewn pum ardal newydd yn Lloegr, gan ddechrau ym mis Medi. Yr ardaloedd dan sylw ydi de a gogledd Dyfnaint, gogledd Cernyw, gorllewin Dorset, a de Sir Hereford.

Wrth ymateb, dywedodd datganiad gan Lywodraeth Cymru: "Mae gwaredu TB ymysg gwartheg yn un o flaenoriaethau pennaf Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

"Rydym wedi ymrwymo i gynnig dull gwyddonol i geisio taclo'r afiechyd yma. Mae ein rhaglen gynhwysfawr o waredu TB, sydd wedi ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd am saith mlynedd yn olynol, yn cynnwys profi gwartheg, camau bioddiogelwch caeth a rheolaeth ar symud anifeiliaid.

"Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod ein dull yn cael effaith, gyda'r nifer o fuchesi gyda TB yn gostwng 11% dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Mae'r rhaglen yn destun monitro ag adolygu parhaus. Nid yw'r polisi presennol i frechu moch daear yn atal Ysgrifennydd y Cabinet rhag ystyried camau pellach neu newydd fyddai'n addas i fynd i'r afael â'r sefyllfa TB ymysg gwartheg yng Nghymru.

"Fe fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad i'r Cynulliad llawn ar ein cynllun difa TB yn yr hydref."