60% o wastraff Cymru'n cael ei ailgylchu
- Cyhoeddwyd
Mae'r ystadegau diweddara'n awgrymu bod cynnydd wedi bod yn y gwastraff sy'n cael ei ailgylchu yng Nghymru.
Yn ôl ffigyrau sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, cafodd 60% o wastraff ei ailgylchu yn y 12 mis hyd at ddiwedd Mawrth.
Mae hyn yn cymharu â 56% yn y 12 mis blaenorol.
Targed y llywodraeth yw ailgylchu 70% ymhen naw mlynedd.
Ceredigion ar y brig
Ceredigion yw'r awdurdod berfformiodd orau, gyda 68% o wastraff yn cael ei ailgylchu, tra bod Blaenau Gwent ar waelod y rhestr ar 49%.
58% oedd y targed ar gyfer 2015-16, cyn codi i 64% erbyn 2020 a 70% erbyn 2025.
Yn y gorffennol, dyw cynghorau sydd wedi methu â chyrraedd eu targedau ddim wedi eu dirwyo, ond bydd gweinidogion yn penderfynu ar gosbau y tro hwn unwaith i'r ffigyrau terfynol gael eu cyhoeddi ym mis Hydref.
56% o wastraff gafodd ei ailgylchu yn y 12 mis hyd at mis Mawrth 2015, wrth i gynghorau Cymru ymdrechu i gwrdd â tharged Llywodraeth Cymru o ddim gwastraff o gwbl erbyn 2050.
Cosbi methiannau?
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd gweinidogion Cymru'n penderfynu a fyddan nhw'n cosbi awdurdodau sydd wedi methu â chyrraedd eu targedau yn 2015-16 unwaith iddyn nhw ystyried yn llawn amgylchiadau'r methiannau hynny.
"Fydd hi ddim yn glir pa awdurdodau a fethodd yn 2015-16 tan i'r ffigyrau blynyddol gael eu gwirio a'u cyhoeddi ym mis Hydref 2016."
Cynghorau Sir Fynwy a Blaenau Gwent oedd yr unig awdurdodau a gofnododd ostyngiad yng ngraddfeydd ailgylchu o'i gymharu â ffigyrau 2014-15, gyda Sir Fynwy i lawr o 63% i 62%, a Blaenau Gwent o 50% i 49%.
Serch hynny, roedd yna gynnydd 1% ym mherfformiad Sir Fynwy yn y 12 mis hyd at fis Rhagfyr, ac fe arhosodd ffigyrau Blaenau Gwent yn eu hunfan am yr un cyfnod.
Ymweld â chartrefi
Gwelodd cyngor Caerffili, un o'r awdurdodau a'i cafodd hi'n anodd cwrdd â'r targed o 56%, ei graddfa ailgylchu'n cyrraedd 62% y tro hwn, i fyny o 59% ym mlwyddyn galendr 2015.
Mewn ymdrech i fynd i'r afael â'r broblem, mae'r awdurdod wrthi'n ymweld â phob cartref yn y sir i annog yr arfer o ailgylchu.
Maen nhw hanner ffordd drwy'r broses ar hyn o bryd, ac yn dweud fod pobl yn ymateb yn bositif i'r cyngor.