Prifysgolion Cymru: 210 o staff yn ennill dros £100,000
- Cyhoeddwyd
Cafodd 210 o staff prifysgolion Cymru gyflog o dros £100,000 y flwyddyn yn 2014/15 yn ôl adroddiad newydd ar gyflogau.
Daw'r ffigyrau o adroddiad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ar ôl i'r llywodraeth gomisiynu arolwg blynyddol o gyflogau arweinwyr prifysgolion.
Yn ôl yr adroddiad, cafodd saith o wyth is-ganghellor prifysgolion Cymru gyflog o dros £200,000 gan gynnwys cyfraniadau pensiwn.
Ond mae'r adroddiad yn pwysleisio bod cyflogau prifysgolion Cymru yn debyg i brifysgolion o faint a statws tebyg yn y DU.
Mae hefyd yn casglu bod prifysgolion Cymru mewn marchnad ryngwladol, a bod angen i gyflogau fod yn debyg i brifysgolion eraill os ydyn nhw am gystadlu a recriwtio'r unigolion gorau.
£288,000 y flwyddyn
Cafodd yr adroddiad ei ryddhau i BBC Cymru dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac mae'n ganlyniad i argymhelliad gan bwyllgor Cynulliad i gasglu gwybodaeth am gyflogau yn y sector cyhoeddus.
Mae'n dweud bod rhai is-gangellorion yng Nghymru yn cael cyflogau is na mewn prifysgolion dros y DU, a hynny ar ôl i'r cyn Ysgrifennydd Addysg rybuddio na fyddai modd i addysg uwch osgoi toriadau am byth.
Prifysgol Caerdydd oedd â'r nifer fwyaf o staff yn derbyn dros £100,000 - gyda 136.
Mae hynny'n rhoi'r brifysgol y tu allan i'r 10 uchaf o ran y nifer uchaf yn ennill dros £100,000, ond mae'n debyg i brifysgolion tebyg gydag ysgolion meddygol.
Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, Colin O'Riordan yw'r pennaeth sy'n cael y cyflog uchaf yng Nghymru - cyflog o £288,000 gyda chyfraniadau pensiwn.
Mae hynny, a chyflogau'r is-gangellorion eraill, yn debyg i brifysgolion o faint tebyg yn Lloegr.
Penderfyniadau'n 'aneglur'
Ym mis Chwefror, fe wnaeth Undeb y Prifysgolion a Cholegau rybuddio bod cyflogau penaethiaid prifysgolion llawer yn uwch na staff eraill.
Yn 2014/15, roedd y cynnydd mwyaf i gyflog Julie Lydon OBE, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru - sef 8%.
Yn ôl adroddiad CCAUC, mae ei chyflog yn dal yn sylweddol is na swyddi tebyg mewn prifysgolion eraill.
Wrth ymateb, dywedodd yr undeb mai'r prif bryder oedd y gwahaniaeth rhwng cyflogau is-gangellorion a staff eraill.
Dywedodd llefarydd ei bod yn "aneglur" sut mae cyflogau i swyddi rheoli yn cael eu penderfynu, gan ychwanegu bod yr undeb yn galw am "fwy o dryloywder a chyfrifoldeb" ynghylch y penderfyniadau.
Ychwanegodd: "Gyda thoriadau a chynnydd mewn ffioedd dysgu, mae'n hynod bwysig bod pob ceiniog yn cael ei wario'n ddoeth, er budd pawb."